Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IOAN JONES O RUTHYN. II. Os byddai rywbeth neilltuol wedi ei daro hoffai yn fawr fynd ac adrodd hynny wrth ryw gyfaill iddo. Un tro, pan yn mynd i'r Bontuchel i Gyfarfod Ysgol yn yr haf tara- wyd ef gan gân yr adar yn y llwyni o'i ddeutu. Bore Llun aeth at Mr. Lewis Jones i adrodd ei lawenydd a'i deimlad ar ol y Sul. Wyddoch chi be, mi godes ddoe ynghynt nac arfer i fynd i fyny i'r Bont i Gyfarfod Ysgolion. ac wrth fynd i fyny at y Rhengoed, i mi glywed yr adar yn pyncio mor llafar, mi ddo'th i nghof yr hen bennill hwnnw,— t; 0 deffro, f'enaid, cân yn awr- Fel'r adar, achub flaen y wawr, Os mawl sy'n gweddu iddynt hwy; Mae mawl i mi mil filoedd mwy." Mae'r adar bach, yn siwr i chi, wedi eu hysbrydoli yn fwy na ni. Yr oedde' nhw wrthi a'u holl egni. Yr oedd y deryn du a'r fronfraith­ John Elias a Christmas Kvans y llwyni-wrthi eu gore glas; a'r asgell, a robin a'r dryw, yn ceisio'u boddi nhw; ac yr oedde nhw, rhyngddynt, yn llenwi yr awyr a'u moliant. O mi deimles yn swil pan feddylies i, ar fore Sul, mor dawel oedd dynion! Chlywis i'r un note o foliant ar hyd y ffordd ono, yn codi o'r un ty ffarm Ac wedyn, wedi cael nhw at ei gilydd i'r capel, 'doedd ono'r un note wedyn, heb ei fforsio hi, fel dyn yn ceisio crio yng nghladdedigaeth ei ewythr achos bod o wedi gadael rhywbeth iddo yn ei 'wyllys Yn wir, yr yden ni yn ddigon ar ei hol hi hefo'r grefydd yma pan awn ni i'w chymharu a hyd yn oed crefydd yr adar Beth bynnag, mi ges i fendith wrth eu clywed nhw, ac mi roison' hwyl imi am y diwrnod. Edrychai ef am Dduw ym mhopeth a phobman, ac nid yn fynych y methai a'i gael. Yr oedd ei dduwioldeb yn hysbys i blant y dref, mor hysbys fel y darfu iddynt un tro, a hynny gyda gonestrwydd a nodwedda blant, roddi ateb- iad nad oedd yr holwr yn eî ddisgwyl ganddynt. Holi ar ddiwedd Ysgol Sabothol ydoedd. Gofynnodd yr holwr i'r plant Pwy oedd y dyn goreu ?" Atcbodd rhyw ddau neu dri o'r plant hynaf, heb os nac oni bae yn eu meddwl, mai Ioan Jones." Dywedodd y Parch. Robert Hall unwaith am y Parch. Christmas Evans: He is a gentleman in rags." Gellir dywedyd yr un peth am loan Jones mai Diamond in the rough" ydoedd. Digiai rhai wrtho, na welent ond y