Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. TAITH Y CYMRO YN Y GWYNT. YMGOM. BYWYD a llawer o awelon probaganda ynddo yw bywyd cymdeithas heddiw-awelon meddal, yn tyfu pethau yng nghynt nag awelon y tir pell. Plennir gerddi cicaionau, a rhaid iddynt hwythau gael awelon priodol. Wrth reswm, y mae lle i gicaion, hyd yn oed ym mywyd proff- wyd, i gysgodi ei amynedd, pan eiddigeddo hyd farw, wrth fethu a chael ei ffordd ei hun. Tyfu'n araf y mae egwydd- orion bob amser; mynnant eu hamdden eu hunain; a thyf- ant ym mhob tywydd. Dyn sy'n brysio, oherwydd ei oes fer. Ni frysia Duw, ei oes Ef yw tragwyddoldeb. Pren- nau a dyf yn araf yw cedrwydd Libanus-" y rhai a blan- nodd Efe," gofala Ef am oesau cyn eu geni. Pan blan- nwn ni goed, dylent ffrwytho'r ebrwydd, cyn i ni gadw noswyl ar ben dydd y saith awr. Collasom yr hen ysbryd diddig, a rhadlon; ysbryd hamddenol a chanddo ddigon o amser i gerdded i bob man, i orffwys ar y daith a chymryd ei fwyd a'i ddiod yn llawen. 'Roedd gwaith yn bleser yn yr oes araf, a segurdod yn flinder ysbryd. Hoffent hwy aredig cwysau hir yn y glaw a'r ddrycin, a chymerent ham- dden i nithio'r yd cyn ei hau. Ni heuent ond puryd, a thyfai yntau bob gronyn. Gyrru'r ydym heddiw. Teith- iwn yng nghynt, cysgwn yng nghynt, a gorffwyswn lai. Gyrrwn am y pegwn; os na chroeswn ni ef heddiw, bydd gwr arall wedi ei groesi cyn yfory, a chipio'r anrhydedd iddo ei hun. Nid croesi yw'r pwnc, ond pwy a groesa gyntaf-hyn yw'r gwres sy'n gyrru'r gwaed. A oes probaganda iaith yng Nghymru heddiw? A godasom ni ar ei traed, i yrru cerbyd yr iaith, i ganlyn cerbyd amgylchiadau: rhag iddi gael ei hun yn gwaeddi'n