Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWYDDLUNIOL MEWN CELF CRIST- IONOGOL.* ARWYDDLUN sydd air cyfansawdd o arwydd a llun, yn golygu llun arwyddol. Dywedir mai ystyr y gair Groeg ydyw taflu neu fwrw ynghyd, dwyn gwrthrychau at ei gilydd, y tebig at ei debig. Yr enw, fel y gwyddoch, ar y gallu sydd yn gwneud hyn ydyw y darfelydd,-y gallu sydd yn canfod tebygrwydd yn y naill beth i beth arall. Defnyddia yr agos a'r cynefin, ar sail rhyw debygrwydd cyd-rhyngddynt, i ddangos y pell a'r anghynefin. Y gwrthrych a ddefnyddir i'r diben o ddwyn gerbron y meddwl wrthrych arall a elwir yn arwyddlun. Gan hynny arwyddlun sydd wrthrych, neu ddarlun, neu ddelw, neu gyffelybiaeth, a ddefnyddir i ddangos gwrthrych arall, neu syniad, i'r hwn y medd radd o debygrwydd mewn ffurf, natur, cymeriad neu gynheddfau. Arwyddluniaeth ydyw y defnyddìiad o wrthrychau gweledig i bortreiadu y gwirionedd. Y gwirionedd mewn lluniau ydyw. Gwna alegori neu ddameg ddefnydd o bethau ffugiol a phersonau dychmygol. Apelia Ar- wyddluniaeth at y meddwl drwy y llygad; ac y mae, i fesur mwy neu lai, yn gelfyddydol ac arluniol, tra mae'r ddameg a'r alegori yn fwyaf arbennig, yn llenorol, megis Taith y Pererin." Mae un nodwedd yn gyffredin i'r arwyddlun a'r ddameg, — mai mewn un peth yn unig y rhaid iddynt debygu i'r gwrthrych a arwyddoceir. Fel na ddylid ysbrydoli popeth mewn dameg, felly ni ddylid ysbrydoli popeth perthynol i'r arwyddlun. Nod angen y naill a'r llall ydyw ergyd a chilio." Y mae darluniau arwyddluniol, sydd yn cyfateb i'r alegori mewn llenyddiaeth. Hwyrach y rhoddwn eng- hraifft o'r rhai hyn ymhellach ymlaen. Cysgod sydd beth neu berson yn rhag-ddangos y peth neu y person sydd i ddilyn. Am ci fod fel hyn yn myned o'r blaen, yn hytrach na'i fod o ansawdd wahanol i ar- wyddlun, y'i gwahanicithir oddi wrtho. I ddangos hyn ni Anerchiad gerbron Cymdeithas Lenyddol Llangollen.