Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ROBERT JONES, RHOSLAN. UN a fu yn wir ddefnyddiol gydag Achos yr Arglwydd yn ei oes ydoedd y gwr y mae ei enw uwchben ein hysgrif. Iddo ef yr ydym yn fwyaf dyledus o bawb am ddiogelu hanes boreuol y Cyfundeb Methodistaidd. Gwnaeth hyn mewn modd diddorol a chanmoladwy iawn yn ei lyfr ar Ddrych yr Amseroedd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1745, ac felly nid oedd ond ychydig o flynyddoedd wedi myned heibio er pan anwyd y Cyfundeb Methodistaidd. Lle o'r enw Suntur ym mhlwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, ydoedd mangre ei ened- igaeth. Dywedir mai chwech wythnos o ysgol a gafodd. Ond bu yn dra ffodus yn ei fam, yr hon ydoedd yn un o'r gwragedd mwyaf crefyddol, ac a ymhyfrydai yn y gorch- wyl o hyfforddi ei mab yn addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd. Ond pan oedd efe tuag 11 oed bu hi farw er colled annhraethol iddo. Yr oedd ei hoffter o ddarllen yn angherddol; ond er fod llawer o argraffiadau addysg ei fam yn aros ar ei galon nid oedd yn proffesu crefydd, a byddai weithiau yn tueddu at wawdio y Methodistiaid. Ond daeth Lewis Evan, yr hen gynghorwr ffyddlon o Lan- llugan trwy y wlad, a chydag ef yr oedd pregethwr arall na wyddis erbyn hyn pwy ydoedd, a thueddwyd Robert Jones i fyned i'w gwrando. Ymddengys y gwnelai Lewis Evan gryn dipyn o ystumiau wrth bregethu, yr hyn a barai lawer o ddifyrrwch i Robert Jones, a phenderfyn- odd y gwnai ei ddynwared i'w gymdeithion annuwiol; ond pan gyfododd y pregethwr arall i bregethu, darfu i'r gwir- ionedd ymaflyd ym meddwl y llanc, ac aeth adref yn gre- adur newydd. Ymunodd yn fuan a'r eglwys a arferai ym- gynnull ym Mrynegan. Yn lled fuan wedi ei droedigaeth, meddiannwyd ef gan awydd angherddol am weled plant a phobl ieuainc yr ar- dal yn cael breintiau addysg; a darfu iddo benderfynu mynd yr holl ffordd ar ei draed i Lacharn at Madam Bevan i geisio ganddi ei dylanwad er cael un o ysgolion cylch- ynol yr Hybarch Grifnth Jones, Llanddowror, i'w ardal