Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PERSON YR ARGLWYDD IESU GRIST.* WRTH gychwyn ein hymdriniaeth, sylweddolwn yn ddwfn gysegredigrwydd y mater sydd i'w drafod, a'n hanallu i dreiddio i mewn ond ychydig i'w ddirgelwch. Cwestiwn mawr oedd y cwestiwn ofynnodd yr Iesu i'w ddisgyblion-" Pwy y mae dynion yn ei ddywedyd fy mod i Mab y dyn?" Yr oedd amrywiol atebion yn cael eu rhoddi i'r cwestiwn pan oedd Crist yn y byd, ac mae am- rywiol atebion yn cael eu rhoddi i'r cwestiwn ar ôl hynny. Y mae Person Crist yn ddirgelwch mawr. Felly yr oedd i'r disgyblion cyntaf. Plygai y disgyblion i Grist fel Ar- glwydd, ac roedd llawer o bethau yn dywyll iddynt ynglyn a'i Berson. Fe gymerodd rai cannoedd o flynyddoedd i'r Eglwys yn ddiweddarach ddod i feddu syniad gweddol gyf- lawn a chyson am Berson Crist. Ac hyd yn oed heddiw yn yr 2ofed ganrif o Oed Crist, teimlir fod y dehongliad a gynygir ymhell o fod yn berffaith. Ac y mae yn fwy na phosibl mai felly y pery eto ymlaen. Mae y gwirionedd am Berson Crist yn wirionedd rhy fawr i'w osod allan drwy unrhyw ddeffìniad geiriol. Ym mha Ie y mae yr Eglwys yn cael y defnyddiau i ffurfio ei barn am Berson yr Iesu ? Yr ateb ydyw mai y portread a'r dehongliad o Grist sydd i'w gael yn y Testa- ment Newydd (yn yr Efengylau a'r Epistolau) ydyw y prif ffynhonnell i'n galluogi i ffurfio barn gywir am ei Berson. Rhoddir gwerth arbennig gan rai ysgrifenwyr ar y por- tread o Grist a geir yn y tair Efengyl gyntaf, am eu bod yn gofnodiad syml o'r ffeithiau am Grist, heb gynnwys ond ychydig o ddehongliad yr Eglwys ar y ffeithiau hynny. Y mae ysgolheigion yn cytuno i ddweyd, y ceir gan yr Efengylwyr, ar y cyfan, bortread cywir o Iesu hanes, ac fod y cofnodiad o'r ffeithiau yn yr Efengylau yn ddigonol i alluogi dynion heddiw i ddeall meddwl Crist amdano ei Hun. A'r ffordd oreu yn ddiau, i gychwyn ymchwiliad i'r athrawiaeth am Berson Crist ydyw cychwyn yn y fan hon gydag ymwybyddiaeth Crist amdano ei Hun. Papur a ddarllenwyd yng Nghyfarfod Gweinidogion Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd, Fron, Dinbych, Mai 6, 1926.