Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ni o feddwl am Grist ydyw meddwl amdano fel Duw wedi ymgnawdoli, ac ystyried ei Dduwdod fel sylfaen ei berson- oliaeth. Y perygl sydd ynglyn a'r ffordd hon o osod allan y gwirionedd ydyw colli golwg ar wirioneddolrwydd dyn- oliaeth y Gwaredwr. Ynglyn â'r pwnc o uniad y dwyfol a'r dynol yng Nghrist, gofynnir y cwestiwn, A allwn ni dybio fod Crist yn feddiannol ar ddwy ewyllys neu ddau ganolbwynt o ymwybyddiaeth-un yn ddwyfol a'r llall yn ddynol ? Ateb yr Athro Mackintosh ydyw nad allwn synio am Grist fel yn feddiannol ar ddwy ymwybyddiaeth,-fod unoliaeth ei fywyd personol yn berffaith eglur, ac nad oes neb wedi gallu profi bod ganddo ddwy ymwybyddiaeth. O'r ochr arall, y mae awdur yr ysgrif ar Grist yn yr Encyclopedia of Religion and Ethics o'r farn nad oes dim yn anhygoel ■o gwbl yn y syniad bod gan Grist ddwy ymwybyddiaeth. '` Y mae'r elfennau cymysg sydd i'w cael yn ein hymwy- byddiaeth ddynol ni ein hunain," meddai, yn ein gwneud yn llai sicr nad allai fod gan Grist ddwy ymwybyddiaeth." Rhaid i ni yn awr ddirwyn i fyny ein hymdriniaeth, ac wrth wneud hynny teimlwn nad ydym ond prin wedi cyff- wrdd ymylon y mater a osodwyd inni. Fel y dywedwyd ar y dechreu, y mae Person Crist yn ddirgelwch mawr, a thebig na ellir byth gael unrhyw ddeffiniad geiriol i'w osod allan i foddlonrwydd. Fel y dywed yr Athro Miall Edwards yn y Geiriadur Diwinyddol newydd, Erys Iesu yn her i feddwl goreu pob oes i'w esbonio a'i dde- hongli. Y mae cyfundrefnau dynol yn newid. Dros amser yn unig y parhant. Our little systems have their day; They have their day and cease to be; They are but broken lights of Thee, And Thou, O Lord, art more than they." Y mae y Person yn fwy nag unrhyw ddehongliad a ellir roddi ohono. Peniel, Dinbych. O. GWILYM GRIFFITH.