Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fod!. Ar y cyrrion yr ydym eto. Daw adeg i'w chwilio'n llwyr a'i darganfod yn llawn. Eithr fe'n dysgwyd gan Feddylegwyr gymaint a hyn, na phaid a bod yr hyn a oll- yngwn ni dros gof. Rhyfedd ac ofnadwy yn gwnaed." Ai tybed pan dyr gwawr y goleuni mwy ar gyfandir en- aid dyn, y ceir bod rhai o ysbrydion ei hynafiaid wedi traws- ymfudo i'w is-ymwybyddiaeth a chartrefu yno ? A mi rai blynyddoedd yn ol yn treulio orig ddifyrrus yng nghym- deithas y Parch. Peter Hughes Griffiths, Llundain, safem ein dau ar esgynfa ddyrchafedig, yn edrych ar yr afon Gonwy yn ymddíolennu'n hamddenol drwy'r dyffryndir yng nghyfeiriad y môr. Safai Coed Carreg y Gwalch ar ein cyfer, ac ymgodai bannau mynyddoedd Eryri yn uwch ac uwch y tuhwnt. Golygfa ydyw a yrr brydydd i lesmair ac arlunydd i orfoledd. Onid yw'n beth rhyfedd," ebr ef; ni fum i erioed yma o'r blaen; ond rywfodd yr wyf yn hen gynefin a'r olygfa yma." "Ie, mewn dar- lun," atebwn i. Na nid wyf yn cofio i mi erioed weled darlun," ebr yntau. Yr unig esboniad sydd gennyf fi i'w gynnyg ar hyn ydyw, ddarfod i rai o'm hynafiaid weled yr olygfa yma ac ymborthi arni." Gwened a weno ar yr esboniad hwn, ond yn sicr y mae ymdeimlad tebig yn brofiad cyffredin i lawer; boed yr esboniad arno beth y bo. Heblaw hynny, onid yw pob un ohonom o ran personoliaeth yn gystal a chorff, yn gynnyrch cenhedl- aethau lawer. Gall pethau orwedd yn dawel yn is-ymwy- byddiaeth dyn am flynyddoedd lawer, heb ei fod ef ei hun yn ymwybodol o'u bodolaeth yno, ac yna yn ddisymwth daw'r adeg ar achlysur i atfywhau y cwbl, megis ar draw- iad amrant. Edrydd yr Athro Rufus Jones yn ei lyfr "The Sooial Law in the Spiritual World," enghreitfftiau íaraw- iadol o hyn. Yn eu plith dyry hanes merch ieuanc ugain oed a flinid beunos gan freuddwyd annymunol. Gwelai ei hun mewn cerbyd ar oriwaered, ac fel y deuai'r cerbyd i'r gwjaelod deuai i'r golwg dro peryglus yn y ffordd, a phont dros afon. Torrai rhywbeth, dychrynai'r ceffylau, teflid y cerbyd yn erbyn y bont, a derbyniai'r cwmni niw- eidiau tost. Parai'r breuddwyd annymunol hwn o'i gael yn fynych boen nid bychan i'r ferch. Rhyw ddiwrnod pan ar ymweliad a chyfeillion ymhell o'i chartref, hi a gafodd ei hun yn weithredlol yn yr amgylchiadau y cawsai ei hun