Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FRANCIS BACON. 1626-1926. YR wyf ddwy flynedd yn iau na theyrnasiad hapus eich Mawrhydi," ebe mab ieuengaf Syr Nicholas Bacon, yr Arglwydd Geidwad, pan ofynnodd y Frenhines Elisabeth ei oedran iddo. Bodlonwyd y frenhines yn fawr gan ateb deheuig y llanc cyflym, a diau fod yr ateb yn barod ganddo erbyn yr achlysur. Yr oedd yn hoff gan Elisabeth wen- iaith; yng ngeiriau un gwladweinydd, byddai raid rhoi gweniaith iddi â llwyarn. Ymhyfrydai hi mewn ymddi- ddan â'r llanc a'i brofi â chwestiynau, a byddai yntau yn eu hateb, ac yn ymddwyn megis un pell tuhwnt i'w oedran, oni byddai'r frenhines yn ei alw weithiau ei Harglwydd Geidwad bychan. Ond i Francis Bacon, â'i ddoniau eithriadol, a'i awydd angherddol am swydd ac awdurdod er mwyn bod o was- anaeth i'r Wladwriaeth, llesoli dynolryw drwy ddargan- fod gwirionedd, a gwasanaethu yr Eglwys," ni bu ffafr y llys ond byr ei pharhad. Er bod yr Arglwydd Drysorydd Burghley yn ewythr iddo, ac yn dal swydd mor uchel, nid oedd yn chwannog i'w gynorthwyo. Yr oedd gan Burgh- ley fab, a hwnnw, er mor ganolig ei allu, a fynnai ef ei wthio ymlaen a'i ddyrchafu, a phallodd hyrwyddo lles ei nai, Francis. Yntau pan gafodd ei hun yn annisgwyliad- wy dlawd wedi marw sydyn ei dad yn 1680, a ymgymerodd â'r alwedigaeth gyfreithiol, fel ffordd i Wleidyddiaetn. Ymhen amser galwyd ef i'r Bar," ac fel bar-gyfreith- iwr, buan y gwnaeth ei farc. Yr oedd yn hyawdl, yn graff, a gafaelgar. Ebe Ben Jonson, y bardd, a'i gyf- aill, amdano Llywodraethai lle y llefarai, a chanddo'r barnwyr yn ddig ac yn fodlon oherwydd ei ddefosiwn, ofn pawb a'i clywai oedd rhag iddo derfynu." Yn 1684 anfonwyd ef i Dy y Cyffredin fel aelod dros Melcombe Regis yn Swydd Dorset, a chyhoeddodd A Letter of Advice on the Political Situation," yn yr hwn y dadleuai am well triniaeth i Babyddion teyrngarol. Yr