Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Breuddwydion am y dyfodol—breuddwydion hynaf- gwr. Ni chyflawnwyd y gweddill." Try ar hanner ei ymddiddan i ddangos i Hobbes a'r Person Rawley sydd gydag ef, mor wych ydynt eleni-y fioledau gwyn dwbl y rhai y tuhwnt i bob blodyn arall a rydd yr arogl per- eiddiaf," ac mor ddiwyd yw'r gwenyn ar wely blodau'r fagwyr; blodau tra hyfryd" -ai Bacon a'i hawgrym- odd gyntaf ?—" i'w gosod o dan ffenestr parlwr neu ffen- estr ryw ystafell isel arall." Darllener ei draethawd ar Erddi er gweled dlysed ei weledigaeth, a'i holl draeth- odau, o ran hynny, er mwyn eu doethineb tawel a'u hawyr- gylch fwyn ar sy'n orffwystra i feddwl blinedig. T. S. A. SYR O. M. EDWARDS. Daliwyd ein cenedl o dan y cyni Am wr oedd annwyl, mawr ei ddaioni; Athraw o urddas, a doethwr erddi; Gwerin a'i haddysg a garai noddi. A byw hiraeth heb oeri­wyla'n gwlad Am huno'i chariad, am un o'i chewri. Talysarn HYWEL CEFNI. Buddugol yn Eisteddfod y Ddraig Goch, Lerpwl. Beirniaid: Syr J. Morris-Jones a'r Parch. J. J. Williams.