Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLE SWPER YR ARGLWYDD YNG NGWASAN- AETH YR EGLWYS.* Hyd y gwyddom, nid oes un Sect o Gristnogion, ag eithrio'r Crynwyr, a Byddin yr Iachawdwriaeth, nad ydyw yn edrych ar Swper yr Arglwydd fel defod gysegredig. Dyma'r gwasanaeth canolog yn Eglwys y Dwyrain, Eg- lwys Rhufain ac Eglwys Loegr. Mae'r ordinhad hon wedi bod am ganrifoedd, ac yn aros felly, yn destun dadl- euon chwerw. Yn y gorffennol, dadleuid yng nghylch ei hystyr, ond yn bresennol dadleuir ar gwestiynau mwy hanfodol. Nodwn rai ohonynt: A ellir dibynnu ar y ffyn- honellau o berthynas i darddiad yr ordinhad? A fwriad- odd yr Arglwydd Iesu iddi aros yn arwydd o'i farwolaeth. Syniad diweddarach, meddir, na'r dydd y sefydlwyd hi, ydyw ei chysylltu â Gwyl y Pasg. Aiff rhai mor bell a rhoddi heibio bob tystiolaeth. oddieithr tystiolaeth yr Ap- ostol Paul, a phriodolant sefydliad yr ordinhad iddo ef. Dywedir iddo droi seremoni baganaidd at wasanaeth Crist- nogaeth, o dan ddylanwad cyfriniaeth Groeg, a welodd yng Nghorinth. Barn y lleiafrif o'r ysgolion ydyw hon. A oes dirgelwch, mystery, yn perthyn iddi? A sef- ydlodd yr Arglwydd lesu ddefod nad oedd y disgyblion yn ei deall ? Ni cheisiwn ateb y cwestiynau anodd, ond ceis- iwn roddi trem ar hanes ei lle yng ngwasanaeth yr Eglwys, gan obeithio y teifl rhyw ychydig o oleuni ar ystyr rhai o'r cwestiynau. Yn hanes yr Eglwys Foreol, gwelwn bod iddi Ie amlwg iawn yn addoliad yr Eglwysi. Tybia rhai na buasai Crist- nogaeth wedi gorchfygu Ewrop ar wahan i'r Sacramentau. Nid yw'n hawdd cael gwybodaeth glir am y ffurfiau a ddef- nyddid ar y cyntaf, ynglyn a'r gweinyddiad o'r ddefod. Gwyddom mai pell oedd y gwasanaeth o fod yn unffurf yn y canrifoedd cyntaf. Nid gweddiau wedi ei paratoi a ddefnyddid, ond yn raddol daeth yn arferiad i ysgrifennu ffurfiau o wasanaeth. Ni ddarganfuwyd, hyd y gwyddis, un o'r llawysgrifau hynaf. Un rheswm am hyn ydyw i'r •Papnr addarllenwyd yng Nghyfarfod Misol, Llanerchymedd, Mon,. Rhagfyr, 1925.