Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TEGANAU. (Rhydd-gyfieithiad o The Toys Coventry Patmore). Am i fy mab bychan, hengall ei olwg, Am y seithfed tro dorri'm gorchymyn, Ceryddais ef, a gyrrais ef oddiwrthyf Gyda geiriau celyd, ac heb ei gusanu,- Ei fam amyneddgar nid oedd fyw. Yna, yn ofni rhag i'w alar omedd cwsg iddo, Ymwelais a'i wely, ond cefais ef yn cysgu'n drwm, A chylch ei lygad yn ddu, a'i emrynt yn wlyb Gan y dagrau a gollodd. A minnau, gydag ochenaid, a'u cusenais ymaith, Gan adael yno'm dagrau fy hun; Oherwydd ar fwrdd ger ei ben Yr oedd wedi gosod o fewn ei gyrraedd Flwch o fân gerrig, darn o wydr Wedi ei dreulio gan y traeth, carreg goch, A chwech neu saith o gregin, A swp o flodau glas mewn costrel, A dwy ddimai dramor wedi eu trefnu Yn gywrain a gofalus i gysuro'i galon brudd, Felly pan yn galw ar Dduw y nos honno Wylais a dywedais A! pan o'r diwedd y gorweddaf Yn llesmair angeu, heb allu mwy i'th ddigio, A phan y cofi y teganau gwael Yr ymbleserwn ynddynt, a'r syniad Gwyr-gam am uniondeb dy ddeddfau, Yna bydded i Ti, heb fod yn llai tadol Na myfi a luniaist o'r pridd, roddi heibio Dy ddigllonedd, a dywedyd, Mi a dosturiaf wrthynt a'u holl wendidau." MEREDYDD JONES.