Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

á, CYLCH YR AWRLAIS." YCHYDIG o flynyddoedd yn ol ymddangosodd llyfr yn dwyn y teitl The Round of the Clock." Ei awdur oedd y di- weddar Syr W. Robertson Nicoll, a'i amcan yw dangos beth oedd oedran gwahanol enwogion pan y cyflawnasant brif weithredoedd eu bywyd. Llwyddodd yr awdur dysg- edig i nodi enghreifftiau ar gyfair pob oedran o 5 hyd 92. Dywed hefyd beth oedd oedran enwogion yn marw. Daeth i'm meddwl y byddai rhestr o enwogion Cymreig ar gynllun Syr Robertson Nicoll yn ddiddorol ac addysg- iadol. Fel ffrwyth ychydig o ymchwiliad cynygiaf y rhestr a ganlyn. Fe sylwa y darllenydd fod y mwyafrif a enwir ynddi yn perthyn i'r 18fed a'r I9eg ganrif. OED 10. W. Thomas (Gwilym Marles), gweinidog gyda'r Un- dodiaid, yn ysgrifennu erthygl ar yr Ysgol Sul i Dywys- ydd yr leuanc (1845). OED II. John Ryland Harris (Ieuan Ddu), mab Joseph Harris (Gomer), yn ysgrifennu llyfr, Cymorth i Chwerthin (1813). OED 12. C. Nice Davies, Prifathro Athrofa yr Annibynwyr, Aberhonddu (I839­-42), yn cael ei wneud yn page boy i'r Frenhines Charlotte (1806). OED 13. Sarah Siddons yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan y chwareudy, yn Aberhonddu (1768). OED 14. O. L. Roberts (Liverpool) yn dechreu pregethu ym Mryngwran, Mon. OED I5. Enillodd J. R. Pryse (Golyddan) ddwy wobr ym Mhrif- ysgol Glasgow (1855).