Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ATHRAWIAETH CYFERBYNIAD." DARLITH DAVIES" am y flwyddyn 1925, gan y Parch. William Hobley, a draddodwyd ganddo yn y Gymanfa Gyffredinol yng Nghaerfyrddin. Na thybied neb mai adolygiad ar lyfr Mr. Hobley ydyw'r erthygl hon. I wneud ei waith yn iawn, dylai'r adolygydd fod yn abl i ysgrifennu'r llyfr a adolygir ganddo. Ond rhaid i mi gydnabod ar unwaith y buasai'r dasg honno yn amhosibl i mi; a chredaf fod y gyfrol hon o ran mater ac arddull yn gyfryw nad allsai neb ei chynhyrchu ond yr awdur ei hun. Yma, olrheinir athrawiaeth cyferbyniad, yn sgrifeniadau y cyfrinwyr Cristnogol, er cyfnod Diwygiad Crefydd." Ac olrheinir hi er y cyfnod hwnnw i lawr i'n dyósriau ni, canys enwir rhai o ysgrifenwyr heddiw yn olyniaeth urddasol y cyfrinwyr gynt. Gwyddom bod yr awdur wedi gwneud cyfriniaeth a chyfrinwyr yn faes ar- bennig ei astudiaeth am lawer o flynyddoedd, a chydna- byddir ef yn gyffredinol yr awdurdod uchaf yng Nghym- ru yn y maes anghynefin, ond cyfoethog hwn. Dieithr i ni yw amryw o'r enwau yn y llyfr hwn, a dieithrach na hynny rai o'r syniadau a draethir ganddynt, yn gystal ag am danynt. Ond teimlwn o hyd mai yng nghanol ei bobl y trig yr awdur, a'i fod yn gwbl gydnabyddus a phob agwedd i'r pynciau dyfnion, ac weithiau, tywyll, a osodir ger ein bron. Hysbys yw fod gan Mr. Hobley ei arddull arben- nig ei hun fel ysgrifennwr, yr hyn sydd fwy nag a ellir ei