Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BETH YDYW DIWEDDARIAETH?* GWYDDYS fod yn y byd diwinyddol heddiw symudiad a elwir Moderism." Casbeth gan lawer o Gristnogion ydyw sôn am yr enw. Edrychir arno fel symudiad per- yglus oblegid ei fod yn dryllio neu'n symud hen gloddiau terfyn cysegredig ynglyn â phrif athrawiaethau Cristnog- aeth. Diau fod rhai rhesymau da dros y casineb. Y mae'n symudiad newydd, ac felly yn un amrywiol ei ffurf- iau a'i gasgliadau, a rhain, ysywaeth, weithiau'n anghyson a'i gilydd. Yn gymaint a bod rhai'n synio amdano fel symudiad sy'n peryglu sylfeini'r Ffydd a gwydroi hanfod- ion yr Efengyl, nid yw'n syndod y credir mai gwaith di- fudd ydyw ei ystyried. Us gwiw ei ystyried o gwbl, gwn- eler hynny, meddir, er mwyn dinoethi geudeb ei gasgliad- au a gresynu wrth ei beryglon. Rhaid, fodd bynnag, cydnabod ei fod yn symudiad byw. Er nad yw ond ifanc, rhyw chwarter canrif o ran oedran, effeithiodd yn drwm eisoes ar agwedd yr Eglwys tuagat y Beibl, ac ar ogwydd diwinyddol ein cenedl. Ac yn ôl pob argoel mynd ar gynnydd cyflym a sicr y mae. Buddiol. gan hynny, ydyw ymholi yn ei gylch. Nid oes hyd yma ar arfer air Cymraeg cymeradwy am Modern- ism." Ni byddai dim o'i Ie mewn Cymreigio hwn a'i alw yn Moderniaeth,' oblegid gair Lladin yw modern yn y gwraidd, ac y mae gennym ni Gymry hawl i roi terfyniad Cymraeg iddo. Ond defnyddir y gair diweddar gen- nym yn yr un ystyr a'r Saesneg modern, ac awgrymwn alw Modernism yn Ddiweddariaeth.' Saif y naill a'r llall am yr Efengyl fel y'i gwelir ac y'i dehonglir trwy lygad meddwl ysgolheigiaeth ddiweddar. Gwaith amhosibl ydyw rhoddi ateb manwl a phendant i bennawd ein hysgrif, oblegid ni chyd-fydd y byw a'r cyn- hyddol â deffmiadau caeth a manwl-gywir. Cysonach ag Papur a ddarllenwyd yn Undeb Coleg y Bala yn Llandudno, Gorffennaf, 1926.