Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TLODI. Un o broblemau mawr pob gwlad a chenhedlaeth ydyw tlodi. Dechreuodd draw ym more hanes, ac fe bery ym- laen, yn ôl yr arwyddion presennol, yn oes oesoedd. Nid ydym yn gwybod am unrhyw deyrnas neu wladwriaeth heddiw nad yw tlodi'n ddyrysbwnc iddi. Credwn mai buddiol ydyw ceisio chwilio i mewn i'r achosion sy'n cynhyrchu prinder ac angenoctid. Trig tlodi'n fynych yn ymyl cyfoeth a llawnder. Anodd i neb ystyriol iawn ddygymod â'r syniad bod tlodi i bara byth, er i'r tlodion fod gyda ni bob amser. Nam ydyw tlodi ar fywyd gwlad, a chymdeithas, ac Eglwys; a thrawst i'w dynnu ymaith fel y perffeithir bywyd ymhob cylch. Tybia rhai dysgawdwyr cymdeithasol mai achos trueni, ac anfoes, a throsedd, ydyw tlodi; ac awgrymant pe cai pawb eu gwala a'u gweddill, y byddai nefoedd newydd a daear newydd wedi'u sicrhau. Hawdd cydnabod mai drwg an- aele sy'n achosi'r fath adfyd. Ni cheisiwn roddi darnodiad manwl a chyflawn o'r hyn a olygir wrth dlodi, ond boddlonwn yn unig ar ddywedyd ei fod yn cynnwys methu sicrhau angenrheidiau byw i'r graddau sy'n ofynnol i ddatblygu corff a meddwl i'w llawn dwf, a'u cadw'n heini ac iach trwy gydol oes. Naturiol a rhesymol inni ydyw ymholi, hyd eithaf ein gallu, pa ddryg- au'n fwyaf uniongyrchol sy'n achosi'r fath flinder, a bod pobl yn gorfod byw, neu hanner byw yn aml, ar rhy fach o angenrheidiau bywyd. Cam yng nghyfeiriad symud y cyni ydyw, chwilio am yr achosion ohono, a hyn a geisiwn ei wneuthur yn gyntaf, ac yna ymofyn a oes medd- yginiaeth a iacha'r archoll. i. Nid ydym yn ofni tystiolaethu bod diogi yn un o achosion pennaf tlodi. Cysylltir angen âg annhuedd i gyflawni gwaith. Dengys ein rheswm fod y diog yn rhwym o ddwyn ei hun i dlodi. Cadarnheir hyn yn eglur gan ddysgeidiaeth yr Ysgrythur. Effeithia byw'n ddiog, nid yn unig ar amgylchiadau'r person ei hun, ond hefyd ar fywyd gwlad a chymdeithas. Pe chwenychai pob per- son wneud ei ran yn onest, trwy ddiwrnod da o waith,