Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEDD WEISION. NID wyf yn cofio gweld ysgrif yn yr un o'r cylchgronau Cyfundebol yn talu unrhyw wrogaeth i wasanaeth y dos- barth hwnnw o ddynion a adnabyddir gennym fel Hedd Weision neu Hedd Geidwaid; ac eto ystyrir y dosbarth hwn gennym yn "hanfodol angenrheidiol i gymdeithas. Hefyd, fe geir yn perthyn iddo rai brodyr sydd yn flaen- oriaid gwerthfawr, ac amryw frodyr sydd yn aelodau ffyddlon yn eglwysi'r Cyfundeb. Gallaf dystio yn ddi- betrus a diweniaith i mi gyfarfod yn ystod y blynyddoedd diweddaf, yma ac acw trwy'r wlad, rai o frodyr y gôt las y caraswn eu gweld yn ei newid am y gót ddu. Peth hawdd fuasai eu troi o fod yn Hedd Geidwaid i fod yn Genhadon Hedd. Fe wnaed hynny unwaith ym Meirion- ydd, a bu'r Eglwys a Chymdeithas ar eu mantais. Mae'n debig nad oes unrhyw ddosbarth o wasanaeth- yddion cyhoeddus yn gorfod wynebu cymaint o ragfarn. Fe'i meithrinnir ynom er yn blant. Pwy nad yw'n cofio'r arswyd a'i meddiannai wrth gyfarfod y plismon," ac wedi cyflawni ohono rhyw ddirieidi diniwed ? Gwelaf y funud yma, ar un o heolycîd plant-boblogaidd Lerpwl, haid o fechgyn am y cyntaf yn ffoi wrth y gair slops" a waeddodd un ohonynt. Gwneud cae pel droed o'r heol oedd trosedd y bechgyn, a datblygu tipyn ar eu hysgyfaint trwy neidio a gweiddi. Yr oedd digon o Ie ar yr heol i wneud goal gyda dau gap, ac nid oedd perigl i neb daro ei drwyn yn erbyn y pyst Nid profcssionals ych- waith mo'r bechgyn, yn tynnu torf i edrych arnynt, ac i gymell y dewin hap Ond y foment y daeth heddwas yn hamddenol, ac heb fwríad, i'r golwg, dyna redeg fel gwningod i'w tyllau, neu betris i'r grug. Rhyw ymweled yn achlysurol y byddai'r heddwas a'r rhan o'r ardal ym magwyd ynddi; ond byddai'r ymweliad- au hynny megis cymylau duon iawn uwch ein pen fel plant. Yn dod, weithiau, o'r Band of Hope yn llon ac ysgafn, ac yn rhedeg fel ebolion allan o gaethiwed, ac yna sefyll yn sydyn a brawychus rai llathenni cyn dod at y lamp ar