Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ISHMAEL JONES Y RHOS. I. CWYNO a glywir yn gyffredin, fod pobl yn mynd yr un fath a'i gilydd. Yr oedd hunaniaeth yn colli mewn tebyg- iaeth. Beiir addysg, gan rai, am hyn; yn enwedig pan sonnir am bregethu a phregethwyr. Y Coleg yn eu gwneud i gyd yr un fath. Yr oedd pregethwyr ffos clawdd fel eu gelwid yn ehedeg yn uwch ar eu haden- ydd eu hunain, tra y mae'r pregethwyr presennol yn ehed- eg yn is yn eu hawyrlongau o eiddo rhywun arall. Ni cheir heddiw yr un Griffith Jones, Tregarth; yr un Dafydd Evans, Ffynnonhenry; na'r un Robert Jones, Llanllyfni; na chwaith yr un Ishmael Jones, y Rhos. Ni raid dywedyd wrth neb yn Sir Ddinbych, yn enwedig ymhlith un enwad, pwy oedd Ishmael Jones. Adnabyddid ef gan bawb a rhedid i'w wrando pan fyddai yn y cyr- raedd. Nid oes odid neb o'i wrandawyr ef yn fyw heddiw. Y saint a'i cofiant sydd gydag ef yn cydgofio'r Oen a'u cadwodd. Nid yw y Sir hon wedi bod yn amlwg yn ei phregeth- wyr hynod. Ni ddigia neb wrthym am són am y diweddar annwyl frawd a gollasom o'n mysg, fel yr Hynod John Roberts, y Rhyl;" na chwaith am gyfeirio at yr annwyl hen dad, aeth i'r gogoniant bron yn gyfamserol, fel yr Hynod Isaac Jones, Nantglyn." Daliai ef yn ei bert- rwydd, er wedi gweld o flwyddi dros naw deg. Ar farw- olaeth ei annwyl briod, cwynai wrth ei ferch fod y Brenin Mawr yn rhyfedd yn ei drefn Cymryd dy fam," medd- ai, "a fy ngadael innau yn y fan yma, yn dda i ddim." "Wel, nhad bach," meddai hithau, "wyrach nad ydych chwi ddim yn barod i fynd eto." Wel," meddai yntau. os yr erys nes y byddai'n barod, fe fyddaf yma yn hir iawn." Amheuwn, er hynny, a fedd un Sir yng Nghymru hyn- otach cymeriad na'r Hynod Ishmael Jones."