Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ATHRONIAETH F. H. BRADLEY. YN ystod y ddwy flynedd ddiweddaf bu farw dau athron- ydd enwog iawn, sef, F. H. Bradley a James Ward. Ath- rawon yn Rhydychen a Chaergrawnt oedd yr awdwyr galluog hyn. Bu'r ddau farw yn gyflawn o ddyddiau. Cafodd Bradley fyw i gyrraedd 78 a Ward 82. Hoffem yn fawr gyflwyno i sylw'r darllenydd brif syniadau ath- ronyddol y ddau awdur galluog hyn, ond gormod o waith fydd hynny mewn un ysgrif. Dewiswn ddamcan- iaeth Uchanianol Bradley yn yr ysgrif hon, gan hyderu y cawn gyfle eto, yn y dyfodol agos, i alw sylw at brif eg- wyddorion athroniaeth Ward. Dilys gennym, mai Brad- ley yw'r meddyliwr cryfaf a mwyaf gwreiddiol o'r ddau, er y bu i Ward chware rhan bwysig yn hanes meddwl ath- ronyddol yr hanner canrif ddiweddaf. Addefwn yn rhwydd nad ydym ni yn gymwys i eistedd mewn barn ar ddynion o faintioli y ddau uchod. Ond credwn mai tyst- iolaeth unfrydol braidd y rhai sy'n alluog i farnu ydyw. fod Bradley yr athronydd galluocaf a mwyaf gwreiddiol a ymddangosodd yn y wlad hon er's blynyddoedd lawer. Gwrandewch ar yr hyn a ddywed ein diweddar gydwlad- wr Syr Henry Jones am Bradley. Ceir y geiriau mewn llythyr a ysgrifennodd y Cymro enwog at frawd yr ath- ronydd: "Credaf fod eich brawd a Bosanquet yn fwy dynion na Bergson neu Groce, ac mai eich brawd yw y mwyaf o'r ddau, a'r mwyaf i mi er dyddiau Hegel." Cydnebydd Syr Henry Jones ei*ddyled fawr i Bradley, ac eddyf ei fod wedi derbyn rhai o'i brif syniadau athron- yddol oddi wrtho. Cychwynnodd Bradley fel athro mewn athroniaeth pan yr oedd Mill a Spencer yn uchel eu bri, ond yn y cyf- amser ymledodd ton gref o ddelfrydiaeth dros Loegr a hynny fel canlyniad astudiaeth o Hegel yn Ysgotland. Y