Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN YSGRIFENWYR "Y TRAETHODYDD." i. Y PARCH. JOHN HUGHES, NERPWL. Gwr wnaeth lawer o waith yn ystod ei oes. Cysegrodd ei oes i waith. Gall talent fawr gysgu, tra mae y dalent i ymgysegru yn chwys g'an ddiwydrwydd a chysondeb mewn rhyw waith. Dyn oedd yn gwneud rhywbeth o hyd oedd ef. Dyma ddywed un amdano a'i hadwaenai yn dda "Os na fedrech chwi nodi dim ar y naill law ag yr oedd efe yn fwy hynod na chyffredin o'r galluog ynddo, ni fedrech chwi ar y llaw arall chwaith feddwl am ddim ag yr oedd efe yn hynod o'r diffygiol ynddo, fel dyn nac fel pregethwr. Tra nad oedd yn amddifad o ysbryd gwrol y llew-hyfder lawer i lywodraethu a rhybuddio yn yr Ar- glwydd, nac o lygad treiddgar yr eryr-deall bywiog, meddai fwy, o bosibl, o'r hyn a ddynodid yn yr ych,- ymroad a llafur gwastad a defnyddiol." Saif y tair cyf- rol 0 Hanes Methodistiaeth Cymru fel tair colofn i'w wahaniaethu oddiwrth bob John Hughes arall. Fel hyn yr adwaenir ef-y Parch. John Hughes, Awdur Meth- odistiaeth Cymru. Yr oedd Methodistiaeth wedi mynd i waed ei hynafiaid. Dwyster a dyfnder argyhoeddiadau a theimladau oedd eu prif ragoriaeth. Un felly, mewn modd arbennig, oedd ei nain, Catherine Tudor, o Lan- armon Dyffryn Ceiriog. Dechreuodd hi a'i phriod, Richard Hughes, eu bywyd priodasol o dan amgylchiadau cysurus. Cytunai y ddau i wasanaethu Crist fel cydeti- feddion gras y bywyd. Bu iddynt naw o blant, ac ni bu un o'r naw farw o dan ddeng mlwydd a thri ugain; a gwel- odd yr hynaf chwarter canrif dros yr addewid. Prentis- iwyd Hugh yn saer, a phan yn ddwy ar bymtheg oed sym- udodd i Adwy'r Clawdd. Yma y priododd, a ganwyd iddynt nifer o blant. John Hughes oedd y trydydd, a di- lynodd ei dad yn y gelfyddyd saerniol hyd yn ddeunaw oed. Ni bu'r tad yn broffeswr crefydd erioed. Dyma broblem anodd ei deall. Rhai a fethant broffesu yr Iesu; eraill a wnant yn rhy rwydd; yr hyn a bair i rai gredu fod