Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN WILLIAMS, LLEDROD. Nid y gwr y mae ei enw uchod oedd y cyntaf i osod bri ar Ledrod yn y byd Methodistaidd. Yr oedd yr enwog Dafydd Morris, tad gwr mwy enwog fyth, Ebeneser Morris, wedi gwneud hynny eisoes. Yn Lledrod y gan- wyd Dafydd Morris, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, ac fel "Dafydd Morris, Lledrod," yr adwaenid ef gan yr hen bobl, er mai yn Nhwrgwyn y preswyliai y rhan olaf o'i oes. Hynododd John Williams ei hun fel un a gymerodd ran amlwg ynglyn a'r Neilltuad cyntaf yn 1811. Ymddengys i saith o offeiriaid fwrw-eu coelbren gyda'r Methodistiaid y pryd hwnnw. Perthynai pedwar ohonynt i'r Deheudir, sef y Parchn. John Williams, Lled- rod; John Williams, Pantycelyn: Howell Howells, Tre- hill, a William Howells, Llangan, yr hwn yn fwy diweddar a adnabyddid fel `` William Howells, Longacre," un o bregethwyr goreu ei ddydd. Yn y Gogledd, y Parchn. Thomas Charles. Simon Lloyd, a William Lloyd, Caer- narfon. Ganwyd John Williams yn y flwyddyn 1747 mewn ffermdy o'r enw Penwernhir, tua hanner milltir i'r gog- ledd-ddwyrain o Bontrhydfendigaid, yn Sir Aberteifi. Enw ei dad ydoedd William Rees Mathias; ac yn ôl arfer y dyddiau hynny cymerodd yntau enw cyntaf ei dad yn gyfenw, a daeth yn John Williams. Efe oedd yr ieu- engaf ond un o saith o blant. Tybid unwaith fod ei rieni yn bobl grefyddol, ond wedi ymichwiliad pellach, cafwyd nad ydyw hynny yn gywir. Yr oedd modryb iddo chwaer i'w fam yn ddynes hynod ar gyfrif ei duwioldeb. Argy- hoeddwyd hi yn ôl pob tebig wrth wrando ar y Parch. Phillip Pugh, gweinidog enwog y Presbyteriaid yn Llwynpiod, yno yr arferai gyrchu gyda chysondeb hyd nes y sefydlwyd Seiat gan y Methodistiaid yn Penlan ger- law Swyddffynnon, ag yr ymunodd a hwy. Dywedir mai hi a fu y prif offeryn i gael pregethu gyntaf i bentref Pontrhydfendigaid, yn ôl tystiolaeth Methodistiaeth Cymru," hi adeiladodd y capel cyntaf yno ar ei thraul ei hun. O dan ofal y fodryb ragorol hon y dygwyd John