Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PLENYDD. MAE duwies dirwest heddiw'n brudd Ymdaenodd gofid dros ei grudd: A gwisgodd fantell dywyll siom Dan bwysau hiraeth calon drom. Daeth gyrfa Plenydd hoff i ben, Apostol dirwest Cymru wen; Arweiniai'i oes a thyner wên, Er byw yn hir ni bu yn hên. Eilun ei genedl oedd drwy'i daith, Yn llaw ei Dduw y llwyddai'i waith, Gwelodd fwynhad y dyrfa fawr, Ac ar ei hwyneb nefol wawr. Siriolai galon mam a thad Fe leddfai loes wrth sobri'r wlad, Bu'n sychu dagrau'r aelwyd drist A thawel cariad Iesu Grist. Gwisgodd arfogaeth meibion Duw, Safodd yn gadarn wrth y llyw; Gwaredodd fechgyn Cymru fu, Crynodd wersylloedd uffern ddu. Atgofion geir o'i ddoniau glân Yn rhoddi Cymru hoff ar dân, Dros rin a moes y rhoes ei hun, A'i ysbryd byw sydd ar ddi-hun. Er marw Plenydd bydd yn byw, A'i ddoniau'n newydd ar ein clyw, Mae iddo dystion yn y nef O fendith Duw i'w lafur ef.