Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BYWYD YSBRYDOL. Y mae bywyd dyn ar y ddaear yn aml-weddog. Un o'r agweddau hynny, a'r pwysicaf yn ddiau, ydyw ysbrydol- rwydd, sef y bywyd crefyddol o dduwioldeb ac o ffydd. Y bywyd dynol perffeithiaf yw'r un a nodweddir gan gyd- bwysedd, cyflawnder a chyfanrwydd-ac y mae duwiol- deb neu ysbrydolrwydd yn hanfodol i'r perffeithrwydd hwn. Cryn gamp yw diogelu'r cydbwysedd, ac osgoi un- ochredd. Disgrifia Petr gyfanrwydd a chynnydd bywyd y Crist- ion (2 Pedr i. 3-8). Ymhlith y pethau a nodir gan Pedr ceir ffydd a duwioldeb." I fod yn ysbrydol y mae ffydd yn angenrheidiol. Y tri gras mawr yw ffydd, gobaith a chariad. Y mae gwahaniaeth i raddau yn y defnydd a wneir o'r gair ffydd gan Iago, awdur yr Hebreaid, a'r apostol Paul. Sonia Iago am y broffes neu'r gyffes grefyddol, a dengys y gall honno fod heb y gras o ffydd. Sonia Paul amdani fel gras mewnol ymddiriedaeth. crediniaeth foesol a mewnol, megis ynglyn â chyfiawnhad trwy ffydd." Yn yr Hebreaid meddylir amdani fel rhyw syl- weddoliad ysbrydol, gwelediad cyfriniol, mewnol a nefol. Yn yr unfed bennod ar ddeg o'r Hebreaid ymdrinir â "Beth ydyw ffydd yn yr ystyr arbennig a nodwyd; Heb ffydd ni allwn ni ryngu bodd Duw," a chyfeirir at ei ffrwythau rhagorol hi yn yr hen dadau gynt." "Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicr- wydd y pethau nid ydys yn eu gweled." Heb ffydd am- hosibl yw rhyngu ei fodd ef oblegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwy- wr i'r rhai sydd yn ei geisio ef." Efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." Y mae ystyr eang i ffydd yn y Llythyr at yr Hebreaid, megis, sail gobeithion y dyfodol, sicrwydd o bethau anweledig, cred ym modol- aeth Duw ac yn ei barodrwydd i fendithio'r rhai sy'n ym- chwil amdano ac yn disgwyl y fendith oddiwrtho. Y mae