Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHWERTHIN A IECHYD. DAETH y byd i deimlo yn fore yn ei hanes, fod tymer sir- iol a llawen yn fanteisiol i iechyd a mwynhad bywyd. Dy- wedir yn Llyfr y Diarhebion: "Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth," neu fel y gellir darllen y geiriau, sydd yn effeithio iachad rhagorol." Mae Awdur ein natur wedi darparu, nid yn unig ymborth er cynnal y corff, ond meddyginiaeth hefyd i iachau ein hanwylderau, ac y m'ae Efe yn disgwyl inni wneud iawn ddefnydd ohoni yn ôl yr angen. Yn lle hynny y mae llawer o bobl yn an- niddig a drwg eu tymer, pryd y gwnai ychydig o ddognau yn achlysurol o chwerthin hwy yn siriol, iach a dedwydd. ac yn ffynhonnell mwynhad a bendith i bawb o'u cylch. Y mae yn rhyfeddol y dylanwad iachusol a fedd ar gorff a meddwl. Dywed un awdur ei fod fel mynegiad allanol o fwynhad y mwyaf iachusol o'r holl ysgogiadau corff- orol; ei fod yn cynorthwyo cylchrediad y gwaed, treuliad yr ymborth, a thrychwysiad, ac yn adfywio'r gallu bywydol ym mhob ermig mae ei ddylanwad ar adferiad y claf mewn rhai achosion yn annirnadwy ac arferai Dr. James Hinton ddweyd nad ydoedd meddygon wedi talu sylw dyladwy i'r hyn alwai efe yn iachad trwy'r teimladau (emotional cures). Fel y canlyn yr eglura efe ei feddwl o safbwynt anianeg a meddyleg. Mae unrhyw beth, meddai, sydd yn gweithredu ar y teimladau, un ai yn achosi neu wella afiechyd. Dywed mai'r achos fod person wedi colli llawer o waed yn dioddef oddiwrth gur yn ei ben ydyw, am fod prinder gwaed yng ngwythiennau'r ymennydd yn peri iddynt grychu (contract) yn ormodol, ac fod teimladau prudd a gofidus yn effeithio yn gyffelyb ar y gwythiennau gwaed yn yr ymennydd. A'r ffordd i wella'r cur ydyw rhyddhau y gwythiennau trwy gynhyrchu teimladau siriol CHWERTHIN. AIL YRGRIF. iv.