Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHEIDIAU CRIST. A OES air yn gwrthdaro cymaint yn erbyn yr ymdeimlad o ryddid a gerir mor fawr gan y natur ddynol â'r gair rhaid "? Y mae nifer o eiriau eraill a gaseir gennym a chas mawr, megis cosb, caethiwed, bryntni, ffalsedd, rhagrith, chwerwder cenfigen, enllib, a'u cyffelyb. Ond wele air a gaseir gennym o'r foment y deuwn yn ymwy- bodol o'n hawydd am ryddid ym mreichiau y fam, hyd y foment y rhyddheir ni o gaethiwed y cnawd ym mreichiau angau. Dichon mai'r ymdeimlad amlycaf ym mhrofiad unrhyw ddyn synhwyrol (sanc) yw'r ymdeimlad o gaethiwed. Caeth i hawliau teuluaidd, caeth i hawliau ei gorff a'i feddwl ei hun, caeth i hawliau cymdeithas, caeth i'w alwad- au feunyddiol, caeth bob munud o'r dydd, a chaeth bob munud o'r nos. Rhaid yw'r gair sydd wedi ei ysgrif- ennu ar gapan drws ei fod â llythrennau o waed. Ond rhyfedd, po fwyaf yr ufuddha dyn i reidiau diderfyn ei natur, mwyaf oll o ryddid fydd y canlyniad, ac fel yr ym- wrthyd â rheidiau ei natur anianyddol. moesol ac ysbrydol, buan y gwel mai canlyniad anocheladwy hynny fydd caethiwed yn ei ffurf waethaf. Gwers fawr a gwobr fawr pob dyn yw ufudd-dod i reid- iau cynhenid ei natur. Po lwyraf y dysg dyn y wers, mwyaf oll fydd y wobr. Ond syndod mawr bodolaeth yw fod yr un a drefnodd holl reidiau dyn, ei hunan, o'i fodd. wedi dod o dan yr un amodau, a chredwn fod mwy o an- feidroldeb (os priodol yr ymadrodd) yn gynwysedig mewn ymostwng o fodd i reidiau y ddwy natur nac oedd mewn glynu yn ei ryddid anfeidrol a thragwyddol. Er mai anodd yw syniad fod modd i'r diderfyn a'r tragwyddol ddod o gwbl i gysylltiadau materol a meidrol heb i hynny o angenrheidrwydd olygu rheidrwydd. Cwestiwn sydd yn codi yn naturiol yw, beth a olygir wrth y gair rhaid, rheidiau, rheidrwydd, ac mewn trefn i geisio ateb, cyflwynir i sylw gysylltiadau yr ymadrodd fel y ceir hwy yn yr efengylau.