Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINIAETH INDIAIDD: Y BHAGAVAD GITA. NID wyf yn cofio i mi weled, yn y Gymraeg, yr un ysgrif na chyfeiriad bron, at y gân hon. Yn ein dyddiau ni, pan mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dod i'w chysylltu a'r werin yn hytrach nag a'r Llywodraeth ac y mae swn uno ar hyd a lled y byd, pryd y meiddia Archesgob Caergaint awgrymu uno'r credoau a'r cyfundrefnau Cristionogol, heb eithrio Eglwys Rhufain, nid amhriodol fyddai ychydig sylwadau amherffaith ar Gân neu Gyffes Ffydd India, gwlad a anwylir yng Nghymru fel maes ei chenhadaeth, a gwlad sydd yn arwyddo bod yn rhan fwy a mwy pwysig o'r Ymerodraeth Brydeinig. Ymddengys ym mywyd y ddynoliaeth ddau fudiad- un at uno a'r llall at wahanu. Symbyliad y byd ysbrydol ar hanes dyn yn ein hoes ni, yn ddiau, yw yr un at uno. Dadfeilia amser Glawdd Offa a geidw Brotestaniaeth a Phabyddiaeth ar wahan. Niwl anwybodaeth, sef diffyg addysg, gyfrif am y pellter i raddau mawr, ac hefyd i raddau gyndynrwydd y natur ddynol. Awgrymir nad yw Rhufain yn newid, ond nid yw Protestaniaid yn barod i ymwrthod a'u gwirionedd. A pham y rhaid i Rufain na Geneva newid ? Y peth sydd eisiau yw addysg, fel y gall y naill a'r llall weled a deall safle ei gilydd a'i barchu. Gormod fyddai disgwyl i ddau ddiweinydd, heb son am ddau gyfundeb, fod yn hollol o'r un farn. Dyna safle y dylid ei mabwysiadu tuagat lenyddiaeth fawr grefyddol India. Lled awgrymodd y Prifathro Reichel yn ddiweddar mai athroniaeth ac nid crefydd yw Bwdhwaeth, er y caniatai i Islamiaeth fod yn grefydd. A chaniatau ei fod yn iawn, eto bu gan athroniaeth Groeg ddylanwad dwfn ar Gristnogaeth a hawdd proffwydo y bydd gan athroniaeth India ddylanwad dwys ar ffurf cref- ydd dyfodol yr Ymerodraeth Brydeinig. Yn ôl tystiol- aeth yr ysgolhaig Dwyreiniol enwog, Max Muller, nid oes athroniaeth ddyfnach. Eddyf Schopenhauer, yr ath- ronydd Ellmynaidd, ei dylanwad, ac ym marn rhai yr un yw ei eiddo ef ag Ysgol y Vedantin yn India.