Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYRDDIN FARDD AC ERAILL. Hawdd iawn fyddai gan Fyrddin Fardd sôn am y TRAETHODYDD. Yn ei ddydd ysgrifennodd lawer iddo, megis hanes hen gerddi ffair, ynghyda llên gwerin ar bob math. I'r TRAETHODYDD, hefyd yr anfonodd Ddyddlyfrau Eben Fardd, y rhai, drwy amynedd mawr, a thrafferth llyfrbryf gwlatgar, a ddetholodd o bapurau annrhefnus y bardd mewn hen lofft yn Hendre bach, Clynnog Fawr, fel yr arferai ddywedyd a gwên ar ei enau, gan sôn am Eben a Doctor Edwards y Bala, yr un pryd. Ac wrth gymharu'r olaf â rhai ag enw o 'sgleig- ion arnynt," yr oes hon, arferai ddweyd yn bwysleisiol gyrhaeddgar. Yr oedd Doctor Edwards yn 'sglaig ac yn ddyn," gan roddi pwys grymus ar yr ac. A'r Doctor ar ei hynt yn Eifionydd, yn gyffredin deuai heibio i fwth lyfrol a gwreiddiol Myrddin. Ac wrth sylwi ohono ar graffter yr hen lenor o'r natur ddynol," a llen, caffai gymorth doniol a hwyliog i anghofio'i hun a'i lafur mawr. Er fod Myrddin yn fwy gwir grefyddol na llawer, lleoedd go ddieithr iddo er's tro oedd Llan a Chapel." Os oedd tynfa ynddo at ryw enwad yn neilltuol, tybiwn mai at y Bedyddwyr a'r Eglwys yng Nghymru yr oedd y cyfryw. Y blaenaf am ei athrawiaeth arbennig, a'r olaf oblegid hender ei thraddodiadau. Fodd bynnag, am fod Doctor Edwards yn ddyn ceisiai'n hen gyfaill Myrddin anghofio ei hun, a mynd i wrando arno'n pregethu, ac efe yn y cyrraedd. Byddai pregeth y Doctor yn ddigon o foddion cnoi cil arni, oni ddeuai'r Doctor heibio wedyn. Gwr sylweddol arall y medrai Myrddin wrando arno oedd Richard Lloyd, Criccieth, fel yr arferai ei alw. Yr oedd yr olaf, yn syniad Myrddin, yn batrwm i lawer yn y gwaith o godi'r corff," mewn angladd, am fod ganddo ddigon o gallineb a gras, heb ddifetha sebon neb." Gwr lled uchel yn llyfrau Myrddin ydoedd, ac ydyw, y rhad- lon Barch. J. Wynne Jones, M.A., cyn-Ficer Caernarfon. Tybiwn mai arno ef, mewn "lle o addoliad," y bu Myrddin onest, yn clustymwrando ddiweddaf, a mawr y boddhad a barai'r bregeth syml iddo, am ei fod yn credu fod y