Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. THOMAS BOSTON. i. YNGLYN â dathliad trydydd Jiwbili'r Cyfundeb yn 1893 fe gyhoeddodd y diweddar Barch. William Lewis, Ponty- pridd, y gyfrol ddestlus honno, "Pulpud Methodistaidd Dwyrain Morgannwg," yn cynnwys chwe phregeth ar hugain, gyda ber-fuchdraeth pob un o'r awduron, o'r rhai nid oes ond rhyw bedwar yn aros hyd yr awrhon. Amheuth- un pennaf y bywg'raífiadau cryno hyn yw llechresau'r llyfr- au y bu eu dylanwad fwyaf ar y pregethwyr. Llawer gwaith y bum yn rhyfeddu at un peth. Er mor fynych y cydnabyddid dyled i weithiau Bunyan a Butler, MacCosh a Charnock, nid enwyd Pedwar Cyflwr Dyn" gan neb ond y diweddar Barch. David Jones, M.A., Brynsadler, a ddywed iddo astudio'r llyfr hwnnw, ynghyd â Chatecism Brown, ymhlith y llyfrau oedd o fewn ei gyrraedd ym more'i oes. Gweddus oedd iddo ef goffâu felly gynhyrch- ion dau ddiwinydd mwyaf toreithiog yr Alban yn y ddeu- nawfed ganrif, gan mai yn Glasgow y graddiasai. Heb- law hynny, fe'i ganed yntau ganrif gron wedi i fab Thomas Boston gyhoeddi yn Amsterdam (yn 1738) draeth- awd cywrain ei dad duwiol, diwyd a dysgedig, ar arwydd- ocâd yn acen-nodau Hebreig. "Who now reads Cowley?" gofynnai Samuel Johnson. Felly gallem ninnau ofyn, Bwy astud sydd wrth Boston ?" Bu farw yn gymharol ieuanc, tua'r un oedran â dau Ebeneser mawr Ceredigion, yn bymtheg mlwydd a deugain, heb gyhoeddi cyn ei farw ond rhyw chwe' llyfr, ond gan adael ar ei ôl drysorfa o bregethau, traethodau ac atgofion, i'w fab a'i wyr ac eraill eu dwyn i'r goleuni. Ni wn a fu awdur diwinyddol y byddai geiriau ysbrydol- laeth am Abel yn fwy priodol amdano, ei fod drwy ffydd (canys ei bwnc oedd gras i gyd), wedi marw yn llefaru eto. Er mor fylchog yw catalog yr Amgueddfa Brydeinig o wahanol argraffiadau ei amryfal weithiau, cofnodir yno