Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRI CHYMERIAD HYNOD O LANRWST. CYN y flwyddyn 1800 ymgynhullai Methodistiaid tref Llan- rwst i addoli mewn tý ar gwr y dref a elwid y Groes- ffordd. Yn y flwyddyn hon prynasant dir i adeiladu capel gan wr bonheddig oedd yn byw yn Hendre House. Y flwyddyn ddilynol caed caniatad Cyfarfod Misol Dinbych a Fflint i adeiladu yr addoldy a chyfarwyddwyd yr eglwys gan yr awdurdodau beth oedd ei hyd a'i led i fod. Dech- reuwyd ar y gwaith ar unwaith, a phan oedd y gweithwyr yn torri y sylfaen aeth un brawd o'r enw Evan Pugh, siopwr yn y dref, atynt, a gorchymynodd iddynt i wneud yn fwy o ddwy lath na gorchymyn y Cyfarfod Misol, ac ufuddhasant hwythau. Pan yr oeddid bron a'i orffen, anfonwyd dau o'r blaen- oriaid (sef Owen Owen ac Evan Owen) dros yr eglwys i'r Cyfarfod Misol, yr hwn gynhelid ar y pryd yn Sir Fflint i erfyn am gymorth tuag at ddwyn y draul. Ond ysywaeth yr oedd yr hanes am ryfyg mawr yr eglwys yn Llanrwst yn torri y gorchymyn a gawsant drwy wneud y capel mor fawr wedi cyrraedd yno o'u blaen. Yn lle cymorth, cerydd llym a gawsant, nes oeddynt yn wylo yn chwerw dost. Er hynny aethant a'r gwaith ymlaen hyd nes ei gorffennwyd. Agorwyd y capel ym Medi, 1801. Yr oedd yr enwog Thomas Charles o'r Bala yno yn pre- gethu. Darllenai y gwr parchedig gyfran o wasanaeth Eglwys Loegr ar ddechreu pob oedfa, a gweithredai Evan Pritchard, masnachwr cyfrifol o'r dref, fel clochydd iddo, a chafwyd cyfarfodydd gogoneddus. Neidia y brawd Evan Pugh o lawenydd wrth weled y capel yn llawn, ac yr oedd y ddau hen flaenor Owen Owen ac Evan Owen yn eu hwyliau goreu. Hwyrach mai nid anniddorol i'ch dar- llenwyr fydd cael ychydig- o hanes y ddau hen flaenor yma. I. OWEN OWEN (1762 — 1842). Ganwyd Owen Owen yn y flwyddyn 1762. Mab ty tafarn o'r enw "Star Inn" ydoedd, a chrydd wrth ei gelfyddyd. Aeth ef a chyfaill iddo i Lerpwl i weithio.