Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH YNG NGHYMRU O DDR. LEWIS EDWARDS HYD HEDDIW. I. RHAGARWEINIAD. DAETH y gair Diwinyddiaeth" o'r gair Lladin dwinus ac nid o'r gair Cymraeg "Duw ac am hynny, ni ddylid ei alw yn Dduwinyddiaeth, ond Diwinyddiaeth. Ceir y gair yn nheitl llyfr olaf y Testament Newydd-Ioan y Difeinydd neu Diwinydd. Enw felly yw diwinyddiaeth ar yr athrawiaeth am Dduw neu am y Dwyfol. A chymryd y gair diwinydd- iaeth yn yr ystyr eang cynhwysa yn ôl Räbiger yn cael ei ddyfynnu gan y Parch. E. O. Davies, M.A., B.Sc., yn ei Theological Encyclopaedia, y pethau canlynol: (i) Di- winyddiaeth Esboniadol, (2) Diwinyddiaeth Hanesyddol, (3) Diwinyddiaeth Gyfundrefnol, ac yn olaf (4) Diwinydd- iaeth Ymarferol. Rhanna ef fel hyn am ei fod yn deffin- io diwinyddiaeth fel gwyddoniaeth y grefydd Grist- nogol." Ond deffiniad y Dr. Drummond o ddiwinydd- iaeth yw y wyddoniaeth-neu yr athrawiaeth-am Dduw." Rhennir y maes ganddo ef yn chwe adran. Ymranna diwinyddiaeth yn ôl cynllun Mr. Davies ei hun yn Athronyddol a Chrefyddol, ac ymranna yr Athron- yddol, drachefn, yn Hanesyddol a Chyfluniol. Ni bu llawer o'r arwedd hon ar ddiwinyddiaeth yng Nghymru hyd yn ddiweddar. Ymranna y Ddiwinyddiaeth Gref- yddol yn (1) Hanesyddol a (2) Chyfluniol. Dan yr Han- esyddol daw (1) Diwinyddiaeth Gymharol, (2) Diwinydd- iaeth Feiblaidd, a (3) Diwinyddiaeth Hanes yr Eglwys. Dan y Cyfluniol (construct'we) daw (1) Diwinyddiaeth Gyfundrefnol a (2) Diwinyddiaeth Ymarferol. Dewiswn y cynllun olaf am fod yr adran athronyddol wedi cael rhyw gymaint o Ie yn y meddwl Cymreig. Ond bydd raid i ni gychwyn gyda'r Ddiwinyddiaeth Grefyddol, am mai dyma y ffurf gyntaf a ddaeth i sylw yng Nghymru. Ni allwn ddilyn y rhaniadau hyn yn eu trefn, ond deuant i mewn yn naturiol wrth fyned ymlaen a'r hanes.