Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWERTH Y BYD I GYD YN GRWN. i. PLANED yn cychwyn o'r ddiddim fro, I deithio'r mud eangderau, A chario trwy'r diddim fwy na'i gwerth O'r prydferthaf drwm drysorau. Crud bach mewn bwthyn, a chanig dlos, Mam ym min nos gyda'i hwian, Gwerth yr holl fyd mawr i gyd yn grwn," Yn fyrdwn ei chân fach i'w baban. Tad yno'n mentro'r tamaid bach tlws, Am dro bach i'w drwstan freichiau, Yntau'n sôn hefyd am fyd yn grwn, A bwndel o'r drud drysorau. Plantos yn taeru o ddeutu'r tân, Yng ngwres mawr y glân lawenydd, Mai mil mwy o werth na bydoedd gant, Yw'r crud 'bach a'i denant newydd. Gwerth yr holl fyd mawr i gyd yn grwn, Yn ffwndro pob tuesuriadau- Yr holl fyd mawr mewn crud yn ddilun, Yn brin lond un o'i gornelau Swn yr holl fyd yn ei gân a'i gwyn, Mewn crud bach yn mwyn ostegu Y byd i gyd yno'n suo'n iach Ei hunan bach bach i gysgu Syrthio ar dro i'r llawr ar ei hyd, O'i grud bach heb unrhyw fwriad, A gwerth yr holl fyd am dro cydrhwng, Yn gostwng peth yn y farchnad. Gwerth y byd crwn yn gynarol iawn, Yn cael rhyw gref ddawn farbaraidd I dreio blas holl bethau y byd Y gall o'i grud bach eu cyrraedd.