Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHRAWIAETH CYFERBYNIAD." II. YN niwedd fy ysgrif o'r blaen, addewais air wedyn pan ddeuai'r hwyl. Wedi meddwi tipyn ar lyfr Mr. Hobley yr oeddwn y pryd hwnnw, ac nid oes nemor o goel ar addewid mewn diod." Pa un bynnag am hynny, rhaid ceisio ei chyflawni, oblegid nid teilwng o'r enw dyn y neb na cheidw at ei air. Terfynais fy ysgrif gyntaf gyda'r Crynwyr­cymdeithas o bobl, neu adran o eglwys Dduw nad oes eu purach mewn rhinwedd a moes, er gwrthod ohonynt ryw bethau a ystyrir gan lawer yn hanfodol i'r eglwys Gristionogol. Ond gwell yma^fer duwioldeb heb yr ordinhadau allanol, na dwyn sel danbaid dros y rheiny, a byw fel paganiaid. Rhoddir lle amlwg yn y llyfr hwn i William Law, aw- dur y Serious Call,-llyfr a ddarllenais pan yn fachgen gyda blas mawr, ac a ddarllenaf eto, yn awr ac eilwaith gyda mwy o flas bob tro. Ychydig yw'r llyfrau a dâl eu darllen ddwywaith drosodd, a lleng y rheiny, ag y mae eu darllen unwaith yn fargen rhy ddrud. Rhyfedd bar- oted ydym i ddarllen llenyddiaeth ag yr oedd ei hargraffu o gwbl yn drychineb moesol, ac mor ymarhous ydym i ddarllen llyfrau safonol a dry'n ffortiwn i'r neb a'u hefryd yn drwyadl ac yn ddwfn. Dywedir yma nad oedd William Law yn feddyliwr creadigol, os nad oedd felly yn yr ystyr y lluniai efe bortreadau newydd o gymeriadau neill- tuol." Ychydig yw nifer y meddylwyr creadigol. Gweithio ar feddyliau oedd mewn cylchrediad yn barod y mae y rhan fwyaf, ac nid rhoi bod i feddyliau na ddaeth i galon dyn erioed o'r blaen. Onid oedd Law yn fedd- yliwr creadigol yr oedd y nesaf peth at hynny, gan y cyf- lwynai mewn gwedd newydd gymeriadau a bortreadwyd o'r blaen. Dywedir mai ei arddull yw hynodrwydd pennaf Law fel ysgrifennwr, a dyma un o brif hynodion pob ys- grifennwr o ran hynny, a ddengys nodwedd ei feddwl yn amlyca,ch na dim. Canmolir ei iaith hefyd, ond ei bod