Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn nod-terfyn yn hanes ymdrech meddwl Cymru." Ym- ddengys i mi fod tuedd mewn rhai beirniaid i osod Is- lwyn gryn lawer yn is na'i Ie priodol ymhlith beirdd ein cenedl. Ynddo ef y gwelaf fi doriad y wawr, sydd erbyn heddiw wedi cynhyddu i hanner dydd ym marddoniaeth oreu Cymru. Rhaid gadael y llyfr fel yma, heb grybwyll amryw bethau y caraswn eu nodi. Cafwyd llyfrau gwych, yn ddiddadl, yn y gyfres hon, o'r dechreu hyd yn awr; ond gellir dweyd heb beri tramgwydd i neb, y saif y gyfrol hon ochr yn ochr a'r goreuon ohonynt. Ofnir er hynny na ddarllenir llyfrau fel yma, ysywaeth, ond gan leiafrif bychan iawn. Ond i Ddosbarth Darllen, cynwysedig o ddynion ieuainc hoff o feddylgarwch dwfn, ac o ymgod- ymu a phynciau dyrys, anodd meddwl am well llyfr nag Athrawiaeth Cyferbyniad y Parch. William Hobley. Ysgoldy. R. H. Watrins. TI A MINNAU. BREUDDWYDIAIS ein bod yn y goedwig Yn unig, myfi a thydi, 'Roedd gwanwyn mor ir yn ein calon 'Roedd gwanwyn ymhopeth i ni, Daeth serchgan aderyn o'r brigau Fel atsain ein meddwl byw, A theimlem fod dieithr undeb Rhwng Natur, a ninnau, a Duw Trwy ganu a charu wnai'r adar A chanu a charu wnaem ni. Ond clywais ysbrydion yr anwel Yn sibrwd fel hyn wrthyf fi Ti gofi fod gaeaf yn dyfod Mewn corwynt a glaw bob yn ail, Fe rewa, fe wywa'r canghennau, A thrwm fydd celanedd y dail; Ond deri'r mynyddoedd a erys Pan gerddo drycinoedd y byd, Er cilio o'r Gwanwyn o'r coedydd Bydd Gwanwyn mewn calon o hyd. Llanon, Ceredigion. IOAN RHYS.