Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHRISTINA ROSSETTI. DYNES sydd wedi gadael argraff ddofn ar lenyddiaeth Prydain ydyw Christina Rossetti. Ganed hi yn y flwydd- yn 1830. Merch ydoedd i Gabriel Rossetti, Eidalwr, a ymlidiwyd o'i wlad am iddo gymryd rhan flaenllaw yn y gwrthryfel pan adferwyd Ferdinand y Cyntaf i orsedd Naples, mewn canlyniad i gwymp Napoleon ym mrwydr Waterloo. Gorfu arno ffoi i Malta gyntaf, ac oddi yno drachefn i Lundain. Yn fuan ar ôl ei ddyfodiad i'r Brif- ddinas etholwyd ef yn athro mewn Eidaleg yn King's College. Bu farw Ebrill, 1854, wedi dringo i enwogrwydd fel llenor diwylliedig, ac yn awdurdod arbennig ar weith- iau Dante, y bardd Eidalaidd. Yn 1826, ymbriododd â Miss Polidori, merch i Gaetano Polidorj, a ddaeth i Loegr yn 1789, gan gymryd un Miss Pierce, athrawes, yn ym- geledd gymwys iddo'i hun. Bu i Gabriel Rossetti bedwar o blant; sef, Marie Francesa, yr hynaf, geneth hynod am ei thalent a'i duwioldeb. Yr ail ydoedd Dante Gabriel Rossetti. bardd ac arlunydd a saif erbyn hyn yn uchel ar lechres enwogion Prydain Fawr. Y trydydd ydoedd Wil- liam Michael Rossetti, ysgolor a beirniad o fri, a byw- graffydd ei frawd; tra y mae'r ieuengaf ydoedd Christina Rossetti, yr awenyddes dalentog. Dyma wrthrych ein hysgrif. Cyn myned ymhellach, teg fyddai dweyd fod y teulu yma yn un o'r rhai enwocaf y ganrif ddiweddaf,-er mor luosog ei henwogion. Pan anwyd Christina Rossetti daeth i awyrgylch gynhesaf y cyfnod. Oblegid onid oedd ei chartref yn gyrchfan yr enwogion Ruskin, William Morris, Maurice, Burne-Jones, T. Watts-Dunton, ac er- aill? Aeth cryn amser heibio er pan y bu farw Miss Rossetti, ond nid oes trai ar ei chlod. Eithr yn hytrach lledaena cylch ei darllenwyr fwyfwy, hyd yn oed ym mysg y beirniaid hynny nad ynt mewn cydymdeimlad llawn â neges ei chân. Diau i'r ffaith bod ei cherddi yn dal per- thynas mor agos a bywyd yr enaid, a'i daith hirfaith o'r byd hwn hyd y nesaf, estroni rhywrai oddiwrth ei gweith- iau. Ond y fath yw'r gamp sydd ar saerniaeth ei cherddi nes swyno aml un i ddarllen ei chynhyrchion-fel gweith-