Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ISHMAEL JONES Y RHOS. II. FEL pregethwr yr adwaenid Ishmael Jones, ac felly y myn- nai yntau gael ei adnabod. Gellir dywedyd am lawer eu bod yn bregethwyr, na ellir dweyd amdanynt mai pregeth- wyr ydynt. Nid mewn rhyw un nodwedd neilltuol y rhag- orai Ishmael Jones, fel llawer o bregethwyr hynod. Yr oedd ynddo ef gydgyfarfydcliati o amryw ragoriaethau a galluoedd. Ceid ynddo y bardd, yr athronydd, y diwin- ydd a'r areithiwr hyawdl. Yr oeddynt yn wreiddiol hefyd ynddo, heb naws gelfyddydol yn agos atynt. Yr oedd yn chewch ar hugain oed yn dechreu pre- gethu, a diameu, oni bai am ddylanwad ei weinidog, Wil- liams o'r Wern, na buasai wedi esgyn i'r pulpud o gwbl. Iddo yr oedd i fynd, ac offeryn Duw i'w yrru yno fu Wil- liams. Penderfynodd ef a gweinidog arall roddi blwydd- yn o ysgol iddo, ac anfonwyd ef i Hackney. Daeth yn ôl i'r Rhos. a bu yn cadw yno un o ysgolion rhad y Dr. Wil- liams. Cyn hir symudodd i Ruddlan i gadw ysgol yno. Gadawodd y gwaith o addysgu, ac aeth yn weinidog ar amryw eglwysi, sef Llansannan, Cana, a Llanrwst. Yn y lle olaf y priododd, ac y claddodd ei briod; a chyn hir dychwelodd yn ôl i'w hen ardal, gan wneud t5- o'i gyn- llun ei hun, oedd yn ddelw amlwg o'r gwr hynod a bre- swyliai ynddo dim ond lle i un fyw yn gysurus ynddo. Dwy ystafell ar lawr. heb lofft; dwy ffenestr a shuttcrs cryfion arnynt. Yr arwydd ei fod ef i mewn fyddai fod y shutters yn agored. Ni byddai byth yn mynd allan heb eu cau, rhag i blant drwg y Rhos edrych i mewn. Arferai gymryd cyntun byr yn ei gadair ar ôl cinio; a chysgwr iawn oedd. Dywedir y byddai yn gwaeddi, ar ganol stori felys, Wel, howld, 'rwan!' a chysgai gyda'r gair, chwyrnu dros y ty. Gallesid meddwl, pryd bynnag yr âi un i'w dy, fod y dodrefn ag yntau wedi bod yn ffraeo. Gwelid pen yr ys- gub mewn un lIe, a'r goes mewn lle arall. Trwyn ambell jwg wedi torri, a chlust un arall ar wahaniddo. Ar y ffenestr y mae cydgyfarfyddiad anghymarus drych,