Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DIWINYDDIAETH GRISTNOGOL A MEDDWL DIWEDDAR. i. YR hyn a feddylir wrth ddiwinyddiaeth yw'r wyddor am Dduw a'i berthynas â'r holl gread. Nid yw gwyddor yn creu, darganfold ffeithiau a pherthynasau y mae, a cheis- io'u hegluro a'u ffurfio'ín gyfundrefn ddealladwy. Fel pob gwyddor arall tyf. Nid yw'r diwinydd Cristnogol heddiw man yr oedd hanner can mlynedd yn ol, a byddai mesur y pellter rhyngddo a'i ragflaenor yn yr oes apostol- aidd a'r oesoedd canol bron yn annichon. Dwg y ddi- winyddiaeth a weheirdd dwf anghlod iddi ei huoi. Ac ni eill fyw. Gellir dywedyd bod dau fath ar ddiwinyddiaeth-y ddiwinyddiaeth draddodiadol a'r ddiwinyddiaeth annibyn- nol. Glyn y ddiwinyddiaeth draddodiadol wrth hen ffurf- iau meddwl a rhy'r pwyslais ar awdurdod. Fe'i ceir yng nghredo Nicea a chredo'r Apostolion ac yn y de- hongliadau ar y credoau hyn a geir yng nghyffesion ffydd y Diwygiad Protestannaidd, yn y deugain erthygl namyn un, yng nghyffes Westminster a lliaws o gyffesion eraill. Hi sydd oruchaf ym mhulpudau a seiadau Cymru heddiw, a thyb llawer o'n pobl ei bod o 'ddwyfol awdurdod, o dardidiad goruwchnaturiol, o ran natur yn oraclaidd ac o ran ffurf yn sefydlog a therfynol. Dogmâu Eglwys a llyfr anffaeledig ydyw. Ymwrthyd â phob newid a dat- blygiad. Y mae'r ddiwinyddiaeth arall hyd gryn fesur yn an- nibynnol ar draddodiad ac awdurdod, er nad ymwrthyd â'r un o'r ddau; ni chwymp allan â'r gorffennol, ac eto ni chymer ei rhwymo ganddo. Croesawa ymchwil. Nid ofna oleu o ba Ie bynnag y del a pha mor chwildroadol bynnag yr ymddangoso. Cred nad gwaeth y gwir o'i