Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(a) CYFEITHWYR CYMREIG THOMAS BOSTON. YcHWANEGWYD at fraslun buchdraeth a llyfryddiaeth Thomas Boston yn y bennod flaenorol ychydig sylw- adau ar y pedwar gwaith o'i eiddo a droswyd i'r Gymraeg, sef y cyfieithiadau adnabyddus: (i) "Camni yn y Goelbren," (2) "Pedwar Cyflwr Dyn," (3) Golwg ar y Cyfamod Gras," a (4) Holiadau Pwysig." Nid oes amheuaeth ynglyn âg awduron y naill na'r lflall o'r ddau olaf, sef David Williams, Merthyr Tydfil, ac Owen Owens, Llanrwst. Ond ymddangosodd Camni yn y Goelbren yn ddienw yng Nghaerfyrddin yn 1769; a dywed Ifano, yn Rhestr Llyfrgell Gymreig Caerdydd (a gyfansoddodd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl), mai'r Parch. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) oedd cyfieithydd Fourfold State" Thomias Boston, serch hysbysu o wyneb-ddalen yr argraff- iad cyntaf (Caerlleon, 1821) mai I. Parry ydoedd, sef y Parch. John Parry o Gaer (τηη5-τR46), un o brif lenor- ion y pulpud Methodistaidd yn ei oes. Dyledus ydwyf i fy hyfwynaf Ifano am fy nghyfeirio at y gair a'r dyst- iolaeth dros ei ddyfaliad mai Daniel Rowland a gyfieith- odd The Crook in the Lot (gan gefnogi felly farn aw- duron Y Tadau Methodistaidd," i. 67), a'i osodiad nad John Parry, namyn Evan Evans, a gyfieithodd "Fourfold State." Sylwer na chrybwyllir enw'r un cyfieithydd ar wyneb-ddalen argraffiad diweddaraf Hughes, Wrecsam. Sail lled-gasgliad Ifano, mai Daniel Rowland a gyf- ieithodd The Crook in the Lot," yw'r hysbysiad a geir ar dudalen olaf "Llais y Durtur sef Gwahoddiad Grasusol Crist at Bechaduriaid, neu, Pregeth a Bregethwyd yn Llanddewi Tach. I, 1761. Ar Dat. iii. 20. Gan y Parch. Daniel Rowland, Gweinidog yr Efengil yn Llangeitho." Purion coffau am y copi hwn o'r pamffledyn dwy-geiniog, sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, mai'r olaf ond un ydyw o sypyn o lyfrynnau a rwymwyd ynghyd yn un gyfrol THOMAS BOSTON. II.