Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CAMISARDIAID (LES CAMISARDS). UN o'r penodau mwyaf diddorol, ond galarus a thrist, yn hanes Ffrainc yw honno lle y dilynwn gwrs erledigaeth y Protestaniaid. Yn y flwyddyn 1521 gwnaeth Luther ei brotest yn Worms, ac yn y flwyddyn honno hefyd rhoddwyd datgan- iad i syniadau cyffelyb yn Ffrainc yn nhref Meaux, tref ddaeth ar ôl hyn yn hynod fel sedd esgobaeth yr hyawdl Bossuet, un o wrthwynebwyr cryfaf y Ffydd Ddiwyg- iedig. Hen wr deg a thrigain oed, James Lefevre, a llanc ieuanc 24ain, William Farel, oedd y ddau gyntaf i wneu- thur datganiad o'r syniadau Protestanaidd, ac ar ôl hir astudiaeth o'r Ysgrythyrau yng ngwmni ei gilydd y gwn- aethant hynny. Cawsant noddwr a chyd-lafurwr yn Wil- liam Briconnet, esgob y lle, a chynorthwywyd hwy ganddo i gyhoeddi cyfieithiad o'r Efengylau ac i- bregethu yr ath- rawiaethau Efengylaidd. Ac ni phregethasant yn ofer. Mor eang a hir-barhaol fu eu dylaruwad fel mai heretic- iaid Meaux y gelwid yn y wlad honno holl wrthwyneb- wyr Eglwys Rufai'n yn ystod hanner cyntaf yr unfed gan- rif ar bymtheg. Yn 1534 cawn y Diwygwyr, mewn munud gwan rhaid cyfaddef, yn gorchuddio muriau Paris, ac, hyd yn oed, ddrws yr ystafell frenhinol a hysbyslenni yn cynnwys yr ymosodiadau mwyaf ffyrnig a difloesgni ar yr offeren ac ordinhadau eraill eu gwrthwynebwyr. Cynheuodd hyn lid anniffoddadwy ym mynwes Francis y brenin, ac yn Ionawr 1535, yng nghanol tyrfa afrifed yn llenwi'r heol- ydd a nennau y tai cawn y brenin yn ymdaith, gan ei rag- flaenu gan y creiriau santaidd a holl urddasolion Eglwys Rufain, a'i ddilyn gan y tywysogion brenhinol ac uchel- wyr eraill y deyrnas, ac yn esgyn i'w orsedd yng ngwydd yr holl bobl ac yn cyhoeddi ei benderfyniad diysgog i roddi pob heretic i farwolaeth, ac i beidio arbed neb pwy bynnag, hyd yn oed ei blant ei hun. Ie," llefai, gan godi i fyny ei fraich, ped halogid yr un hon o'm dwylaw gan y clefyd anaele hwn, torrid hi ymaith gan y llall." Y diwrnod hwnnw llosgwyd chwech o'r hereticiaid mewn