Welsh Journals
Search over 450 titles and 1.2 million pages
DYLED Y PRESENNOL I'R GORFFENNOL. i. Nid yw cenedl, mwy na dyn, yn gwbl annibynnol. Di- bynna'r plentyn ar ei rieni, a dysg pob egwyddorwas ei wersi ymarferol gan ei feistr profiadol. Medd Paul- Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo ei hun, ac nid yw yr un yn marw iddo ei hun." Ond gwir hefyd yw nad oes yr un ohonom yn byw arno ei hun. Dibynna dynion 011 ar Dduw ac ar ei gilydd, a hynny yn gyson er mantais bersonol neu les yr unigol-" One touch of nature makes the whole world kin." Felly hefyd yn hanes gwareiddiad gwledydd y byd o'r dechreu hyd yn awr. Dangosir yn bur eglur drwy'r holl oesoedd fel y cyd-ymddibynna y naill genedl ar y llall. Ac er y diystyrir y gorffennol i fesur gormodol, o feddwl heddiw mai clôd a rhagorfraint y presennol yw pob di- wygiad a chynnydd, eto gwir yw-" gwell yw yr hen." Ni ddeallir hanes yn gywir nac yn deg o gwbl, oni chyd- nebydd y newydd a'r ieuanc ei rwymau i'r hen. Y mae i'r diweddar (modern) a'r presennol eu gwreiddiau yn naear dda yr hynafol (ancient) a'r gorffennol. Cydneb- ydd Paul hyn-" Dyledwr ydwyf," meddai, "i'r Groeg- iaid ac i'r barbariaid hefyd, i'r doethion ac i'r an- noethion hefyd." nes troi'r ymdeimlad o ddyled yn ddyletswydd-" I owe a duty "— Moffatt. Ac yn wir, gwelwn heddiw arwyddion deffroad o'r ddyletswydd i dalu gwrogaeth i'r gorffennol. Ym mysg rhai o'r llyfrau diweddaraf allan o'r wasg Seisnig, ceir dau lyfr nodweddnadol iawn eu teitl-" Hellas y Rhag- redegydd "-amlinelliad o hanes Groeg a'r cymeriadau amlwg a roddes iddi mewn meddwl a gweithred ei diddor- deb a'i harwyddocâd oesol. Eto, Palestina Hynafol," yn y gyfres-" Cipdremau ar wledydd hynafol." Tra mai teitl llyfr y diweddar Barch. H. Price Hughes, M.A., ar rai o wledydd mawr y Dwyrain gynt ydyw The morn- ing hands of History," sef Groeg, Palestina a'r Aifft,- gwledydd bore hanes.