Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"BID BEN BID BONT." i. Os digwydd i ti ddarllenydd hyfwyn ymweled a'r ystafell decaf yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor, He trefyd rhai o airloeswyr meddwl yr oes eu cynlluniau, cadw arnat rhag i'w gwychter beri iti anghofio'r ddihareb a naddwyd i garreg y ,pentan. Y goreu a ellir ei ddywedyd am hen ddiarhebion ydyw eu bod yn cloi synnwyr mewn clys- imeb." Felly yn ddiau y pedwar gair hyn, BID BEN BID BONT." Pa iraid eu gwell i atgofio'r gwyr a'u gwel fynychaf o'u haruthr gyfrifoldeb. Onid llunio pontydd eu gwaith hwythau? o dir anwybod i gyfandir braf diwylliant. Eidia ddiddorol yw honno a briodolir i rhyw dywysog, yr hwn wedi dyfod ohono a'i filwyr at ddaeardor dwfn na fedrent ei groesi, a daflodd ei hun ar ei draws gan ym- ffurfio yn bont i'w filwyr a'u clud fyned dros ei gorff cy- hyrog. O gyfryw stori y ganed y ddihareb dan sylw. O bob gwaith y godidocaf ydyw codá pontydd. Eithr gwaith ydyw yn gofyn goreu y dýn a ymgymer ag ef. Profiad rhyfedd, ond cyffredin i saer neu bensaer, ydyw cyfodi pentanau o feini anferth oddeutu'r afon. Myn'd adre ar ddiwedydd gan deimlo'n falch o waith ei ddwylo. Dyfod eilchwyl fore trannoeth. a'r gorlif wedi symud a difetha'r gwaith i gyd Gwn am brofiad felly mewn mwy nag un ystyr. Ond os oedd y profiad o fethiant yn un chwerw am hynny y parhaodd; eithr anghofiwyd ef yn yr ymdeimlad o oruchafiaeth ddydd gorffen y bont. Oes y mae cryn nifer o flynyddoedd bellach er pan adeiladwyd y bont honno. Bu'm drosti yr haf diweddaf, a chadarned ydoedd a'r graig. Mae rhywbeth rhamantus mewn taflu pont dros afon, i blentyn gael croesi yn dtiiogel a throed- sych. Yn wir, pan feddyliwn yr alwedigaeth ardderchoc- af o bob galwedigaeth mewn bywyd ydyw cyfodi pont- ydd. Rhaid i'r arloeswr a'r darganfyddwr ym mhob byd feddu'r ddawn hon mewn helaethrwydd.