Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH YNG NGHYMRU O DDYDD- IAU DR. LEWIS EDWARDS HYD HEDDIW. YSGRIF II. YR ADNABYDDIAETH O DDUW. DEUWN yn awr at yr adnabyddiaeth o Dduw yn cynnwys yr athrawiaeth am y bod o Dduw, Priodoleddau Duw, a'r Drindod. Yng Nghymru yn nechreu ein cyfnod derbynid y Credoau bore, Credo Nicea, Credo'r Apostolion, Credo Chalcedon, a Chredo Athanasius, oddieithr yr adrannau am yr Eglwys a'r adran felltithiol yn y credo diweddaf, ac hefyd derbynid Erthyglau Eglwys Loegr a Chyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd a phenderfyniadau cyn- adleddoedd y Bedyddwyr a'r Cynulleidfaolwyr, y rhai oeddynt yn gwbl Galfinaidd ond yn ehangach ac yn fwy Beiblaidd o lawer na Chyffes Ffydd Westminster. Yr eithriadau i hyn oedd daliadau Arminaidd y Wesleaid, a daliadau Eglwys Loegr, y rhai oeddent yn ymarferol yn Arminaidd ac ar y pryd hynny yr oedd yr Eglwys yn ddi- fraw a dinerth; ac hefyd daliadau!r Undodiaid y rhai a lwyddasant mewn rhannau o Gymru. Gellir symio i fyny'r athrawiaeth Galfinaidd yng ngeir- iau Hodge a Shedd o Princeton yr Unol Dalaethau, y rhai oeddynt mewn bri yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Cyf- ieithwyd eu gweithiau mewn amryw ffurfiau i'r Gymraeg, yn enwedig gweithiau A. A. Hodge, sef y Bannau Diwin- yddiaeth, &c. Dywed Dr. Charles Edwards y cytuna Hodge a Shedd ar y pum athrawiaeth a ganlyn, — i. Cytunant fod y cwymp yn cael ei gymryd yn gan- iataol yn yr arfaeth, fel peth wedi digwydd ac nad ydyw yn rhan o'r arfaeth. Isgwympedyddion ydynt. Profa Dr. Charles Hodge mai dyma athrawiaeth Awstin, ac ys- tyria ei fod yn amheus beth oedd athrawiaeth Calfin. Ond rhydd Shedd ddyfyniadau helaeth i ddangos fod Calfin hefyd yn dal y syniad nad yw y cwymp yn cael ei gynnwys yn yr arfaeth."