Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NI FEDRAF FYTH ANGHOFIO. Ni fedraf fyth anghofio hen ddyrîdiau'r crwydro rhydd, Pan welais ar fynyddoedd hen Gymru oleu'r dydd, Mor ifanc ac mor gynnes bryd hynny oedd fy ngwaed, A chlychau grug yn borffor glân ymhobman wrth fy nhraed. Fe rodiwn i yn unig liw nos i wel'd y lloer Fel gloyn Duw'n breuddwydio uwchben y clochdy oer; 'Roedd murmur afon Peris yn esmwyth dros bob rhan, A mynwent dawel, hoff Sant Ffraid yn huno ar ei glan. Mi welwn las y gorwel yn un a glas y bau, A'm calon innau'n dysgu mor annwyl oedd y ddau, Fy nghalon yno ddysgodd ei chân anfarwol hi, Ac nid oes dim all dorri'r gân a ddysgais ger y lli. Ni fedraf fyth anghofio pentrefi'r fangre hon,- Llanrhystyd, Pennant, Nebo, Talbont, a'r clws Lanon, Ac ambell bentref arall, a Llansantffraid, hardd fro, Mor annwyl gan fy nghalon i fynd trwyddynt yn ei tro A hawdd yn wir yw cofio hen lannau Cledan fwyn, Ei lliw a'i llun a erys yn anghymarol swyn; A hithau Beris hudol, a lif rhwng llwyni drain, Dros raean mân ei gwely ddyry imi felys sain. Gofynnaf i bob cornant, wrth wel’d pentrefi glân, Pa beth yw hanes Peris, a pheth yw hynt ei chân, A daw atgofion annwyl am fro Llanon yn stôr,. A Chledan mewn cyfaredd dwys yn murmur tua'r môr. Llanon, Ceredigion. lOAN RHYS.