Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"YMSON COFIANT ALAFON. DYMA fi yn Gofiant o'r diwedd. Beth a ddaw ohonof tybed? Hanes digon pruddaidd y sydd i ymdaith aml i lyfr. Prin y gall ond ychydig ohonynt ddywedyd, "Y n nyddiau ein blynyddoedd y mae deg mlynedd a thrigain, ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlymedd, eu nerth sydd boen a blinder iddynt." Pa un bynnag a oes hir ddyddiau imi ai peidio, ni ddymunwn fod ar ffordd neb, a chael fy nhaflu o'r neilltu yn ddiddefnydd. Gwn y driniaeth a gaiff llyfrau yn gyffredin, eu prynu heb dalu amdanynt; eu prynu a neb yn eu darllen, a rhai wedi sefyll yn y farchnad gynted iddynt weled goleu dydd. Teimlaf fy hun yn ddigon diamddifìyn. Nid oes gen- nyf neb i'm cwhwfanu ar drostan y wasg, na noddwr i dalu am rhyw fil neu ddwy ohonof i'm rhoddi yn anrheg i hwn ac arall. Bid a fynno, bodlon wyf i sefyll neu syrthio ar fy nheilyngdod fy hun. Os caf barch a der- byniad goreu oll, ond nid oes arnaf eisieu neb i fy mhrynu o drugaredd; y cysgod mawr a fyddo drosof rhag i mi fod yn wrthrych tosturi neb pwy bynnag. Nid wyf yn honni pethau .mawr, ond rhagrith anesgusodol ynof fyddai credu nad oes ynof beth rhagoriaeth i ymddangos o flaen y cyhoedd, a gallu i gyfrannu rhyw gymaint i gyf- lenwi rheidiau darllenwyr y wlad. Pell ydwyf oddi wrth ymddiheuro am fy modolaeth, a raid i mi ddim chwaith, gan fy mod wedi cael eisoes dderbyniad tra charedig. Yn wir y mae y nifer a argraffwyd ohonof ar y cyntaf bron wedi eu gwerthu allan, a hynny heb i utgyrn arian floddio o'm blaen. Y mae poblogrwydd un llyfr, ac amhoblog- rwydd un arall mor anesboniadwy ym myd llyfrau fel ym myd dynion cyhoeddus. Hyd yma bu adolygwyr yn gar- edig wrthyf a'r wlad yn hael tuag ataf. Bu pawb a llaw ganddynt yn fy nygiad allan ar eu heithaf i'm gwneuthur yn farchnadol, ac i haeddu lle parchus mewn cymdeithas. Credaf yn gryf, a chadarnheir y grediniaeth fwy fwy o ddydd i ddydd, fy mod wedi bod yn hynod ffodus yn fy ys- grifennydd. Cydnabyddir bellach y Parch. R. H. Cofiant a Gweithiau Alafon. Gan y Parch. R. H. Watkins, Yagoldy. Cyhoeddedig gan Swyddfa'r Cymro, Dolgellau.