Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. HUGH PRICE HUGHES. 1847­1902. MAE'N syndod gynifer o Gymry, o ran gwaed a thafod, fu ac y sydd yn gwasanaethu ym mhulpudau y Saeson ar hyd a lled Lloegr a'r byd; ac yn neilltuol felly wrth gymryd i ystyriaeth faint y genedl Gymreig. Llwydda lliaws ohon- ynt hefyd i gyrraedd safle o amlygrwydd ac o ddylanwad ysbrydol. Clywir weithiau awgrym o wawd, cymysg- edig â thosturi, wrth gyfeirio at ffordd gwerinwr o Gymro gwledig o yngan rhai ymadroddion yn yr iaith Saesneg. Ond ymddengys na fedrir ymwrthod â rhyw gyfaredd a berthyn i'w ddawn-ar ôl llyfnhau mesur ar gonglau garwaf yr aceniad, drwy ddiwylliant yr ysgol a'r coleg. Anodd bod yn feistr ar fwy nag un iaith, ac yn enwedig dwy mor wahanol eu teithi ag ydyw'r Gymraeg a'r Saes- neg o ran idiomau a'r ffordd o'u parablu. Er hynny cyfyd lliaws o enwau i'r meddwl o wyr fu'r un mor rwydd a naturiol yn y naill a'r llall. Mabwysiadwyd yr un new- ydd heb fwrw ymaith yr hen dros drothwy'r cof. Mewn rhai enghreifftiau drachefn ceir Cymry o haniad ac o gyd- ymdeimlad, eithr heb yr iaith ar eu gwefus; ystyriant bod cenedl yn annibynnol ar iaith,, ac nad ydynt hwy yn an- ffyddlon i ddim hanfodol wrth esgeuluso meistroli ffurf mynegiant wreiddiol y drychfeddyliau. Diolchai Hugh Price Hughes am ei eni yn Gymro, ac am i hynny ddod i'w ran yn yr hyn a .elwir yn gyfnod Burîdug." Yn nhref hynafol Caerfyrddin y gwelodd gyntaf oleuni dydd, ond ychydig a arhosodd yno, nac ychwaith o fewn i'r Dywys- ogaeth. Oblegid hynny ni chafodd nemor gyfle i ymarfer iaith ei hynafiaid, ond trwy'r cwbl ymffrostiai'n aml nad oedd dyferyn o waed Seisnig yn ei wythiennau! Nid yw daear Cymru mor gynhyrchiol âg un gwas- tadedd.au Lloegr, o rawn a phorfa. Ond tyfodd ar lethr- au teneu ei bryndir gewri mewn talent a dawn ac o blith