Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH YNG NGHYMRU O DDYDD- IAU DR. LEWIS EDWARDS HYD HEDDIW. YSGRIF III. PERSON CRIST. "Tra y deil awdur y traethawd presennol ei afael yn gryf yn yr athrawiaeth o farwolaeth iawnol y Groes, y mae y gwirionedd o hunan-ddatguddiad Duw yn wyneb lesu Grist yn blaenori o ran trefn a drychfeddwl, nid yn unig prynedigaeth ond diben eithaf Creadigaeth" Dr. T. C. Edwards-y Duw-ddyn). Am y rheswm uchod pe bu- asai gofod yn caniatau, yma y deuai ein hymdriniaeth â'r pwnc uchod, ond ni chawn ond egluro paham yr ydym yn myned heibio iddo, a rhoddi nodyn i ddangos y cyfeir- iad y mae y meddwl diwinyddol yn symud. Yr Iawn a'r gwirioneddau perthynol a gafodd sylw bron yn gwbl yn rhan gyntaf ein cyfnod, ac yn ddiweddarach wedi i feirniadaeth wneuthur ei gwaith y daeth yr athraw- iaeth am Berson Crist i ennill sylw; ac yn awr, ar ôl y cyf- newidiad meddyliol mawr y ceisir ei deffinio. Nodir allany symtudiad atmrawiaethol ar hyn (gan lyfr Dr. Lewis Edwards ar Berson Crist, a llyfr Dr. Charles Edwards ei fab, ar y Duw-ddyn-yn neilltuol hwn,-llyfr Mr. David Adams ar Grist a Datblygiad, a llyfr y diweddar Barch. James Charles ar Iawn a Thadolaeth, a Pherson Crist gan yr Athro Richard Morris. Yn y ddau gyntaf ni cheisir newid i ddull y dyddiau hyn o feddwl ond yn hytrach ceisir egluro, yn y "Duw-ddyn," ddirgelwch yr Ymgnawdr oliad a'r Drimdod, yr ymgnawdoliad a'r natur ddynol, a'r ymgnawdoliad ac unoliaeth Person Crist, yn arddull y cyf- nod. Y golygiadau dynnodd sylw arbennig oedd fod Crist yn rhag-gynllun o ddyn yn y Drindod erioed; y buasai'r ymgnawdoliad yn cymryd lIe pe na buasai am bechod; ac fod Crist yn meddu ymwybyddiaeth neu ymwybyddiaeth mewn dau gylch, fel Duw yn meddu ymwybyddiaeth ddwyfol, ac fel dyn yn meddu ymwybyddiaeth ddynol, a'r ymwaghad.