Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GELLIR rhoddi mwy nag un ystyr i'r ymadrodd disgybl- aeth eglwysig." Nid amhriodol fyddai edrych ar holl fywyd a phrofiad yr eglwys fel disgyblaeth. O'r ochr arall, fe gyfyngir yr ymadrodd yn fynych i'r mesurau hynny a fabwysiadodd yr eglwys o dro i dro er diogelu purdeb cymeriad a llwydd ysbrydol ei haelodau. Ac inni ei ddeall yn yr ystyr gyfyngedig yna, wynebir ni gan anaws- terau difrifol o feddwl ei drafod i bwrpas, ac nid y lleiaf o'r anawsterau hynny ydyw prinder amser a gofod. Ac y mae'n rhaid cymryd peth o'r amser prin i ystyried tardd- iad a dechreuad yr eglwys, os am feddu syniad priodoI am egwyddorion disgyblaeth eglwysig. Pwysig, hefyd yw cofio y gall y term eglwys olygu naill ai ffurf o drefniadaeth, neu fod yn enw i gynnwys holl ganlynwyr Crist. Nid yw'n hawdd iawn bob amser cadw yr ystyron yna ar wahan. Ond ys dywed Dr. W. N. Clarke, Y mae trefniadaeth (organisation), er mor wasanaethgar, yn beth gwahanol iawn i fywyd mewnol yr enaid yn Nuw sydd yn cyfansoddi crefydd, ac ni ellir yn briodol ei gyfrif yn rhan o grefydd." Amlwg yw, fodd bynnag, fod Duw yn ewyllysio i'w bobl gyfeillachtr a'i gilydd a bod yn y cyfryw undeb a'i gilydd yr hyn a'u- galluogo i gydwasanaethu eu Harglwydd. Y mae gan Gristnogion a ymgynnull yn enw eu Harglwydd ei addewid o'i bresenoldeb, ac y mae pob cynhulliad felly o Gristnogion yn cyflwyno ei hun i Grist fel cyfrwng iddo sylweddoli ei ddibenion trwyddo. Ac i bwrpas y drafod- aeth yma enw ydyw eglwys ar unrhyw gymdeithas o- Gristnogion, y rhai yn enw'r Arglwydd Iesu Grist a gyf- lwynant eu hunain iddo fel cyfrwng i fynegi ei hunan trwyddo yn ei egnion grasol ac achubol. Yn y cyswllt yma ni ellir gwneuthur yn well na dy- fynnu ychydig o erthygl Dr. Oman o dan y pennawd eglwys yn yr Era: Yr oedd y ddau air ecclesia a sunagoge, a osodent allan yn ddiweddarach y gwahan- iaeth hanfodol rhwng Iddewiaeth a Christnogaeth, un- Papur a ddarllenwyd yn Undeb Athrofa'r Bala, yn Llandudno„ Gorffennaf, 1927.