Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH GRISTNOGOL A MEDDWL DIWEDDAR. II. O RAN ei gred grefyddol, ebe Gore yn ei Reconstruction of Belief, y mae'r byd heddiw mewn sefyllfa o dryblith, ac i bawb a wir ofala am grefydd gan ymdeimlo â'i gwerth pair y sefyllfa gryn ofid, ac fe'n temtir weithiau i ddal yr Eglwys yn gyfrifol amdani. Beth sydd wedi achosi'r tryblith ? Beth yw'r pwerau sydd wedi bod yn ysgwyd rhai o'r pethau a gredem gynt? Pa ryw nerthoedd sydd wedi bod ar waith yn dwyn oddiamgylch y fath angen am ddehongliadau newydd? Nid oes neb yng Nghymru, ond antur, na chlybu am ddiwygiad 1859. Tua diwedd y flwyddyn gofiadwy honno dechreuwyd diwygiad arall o natur wahanol i ddi- wygiad Dafydd Morgan, ac ebrwydd yr ymledodd i bob gwlad wareiddiedig dan haul. Dyma'r adeg y cyhoedd- wyd Origin of Species Darwin, llyfr a achosodd chwildro mawr ac a wnaeth yn angenrheidiol i'r diwinydd aildrefnu defnyddiau ei wyddor, ailystyried sylfeini ei gred, a chad- arnhau ceyrydd Seion. Golygai cynnwys y llyfr hwnnw ddinistr ar lawer o draddodiadau diwinyddol yr Eglwys. Effeithiodd ei athrawiaeth am ddatblygiad ar holl edrych- iad y meddwl dynol ar ddiwinyddiaeth ac ar bopeth arall. Yn y flwyddyn ddilynol yn un o gyfarfodydd y Gymdeithas Brydeinig ymosododd Samuel Wilberforce, esgob Rhyd- ychen, ar y llyfr gan ddychanu ei athrawiaeth a dywedyd y teimlai'n 'bur annifyr od oedd i gredu ei fod o'r un dras ag epaod y Zoo yn Llundain. Os cofir heddiw o gwbl am afiaith ýr esgob, ar gyfrif ateb Huxley iddo y gwneir hynny: O'm rhan i dewisach gennyf fyddai bod wedi disgyn o'r epa nag o ddiwinydd a ddefnyddiai awdurdod i fygu'r gwir." Erbyn hyn fe dderbynnir yr athrawiaeth am ddatblygiad yn weddol gyffredinol, ac fe'i hystyrrir gan lawer o Gristnogion yn gynghreiriaid gwerthfawr, yn wir yn amddiffynnydd y ffydd." Yn ymarferol cred pawb heddiw mewn datblygiad, nid, bid sicr, yn yr ystyr