Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Parodd y pethau hyn oll ddirfawr ddatodiad ar rai o'n crediniaethau crefyddol, ac y mae ganddynt oll gyfraniad- au pwysig i'w gwneuthur i ddiwinyddiaeth Gristnogol. Beth am y ddiwinyddiaeth honno yn wyneb yr holl ddyl- anwadau a enwyd? Yn ein hysgrif nesaf awn dros rai o'n prif athrawiaethau gan eu dal wyneb yn wyneb â meddwl diwylliedig yr oes, ac fel y gwelom ymha le y safant yn eu perthynas â'i gilydd; a bydd rhaid boddloni ar bwythau bras. Valley. R. HUGHES. Y CRWTH. YMDDENGYS bod cryn anwybodaeth am y Crwth yn y wlad, ac yr arferir meddwl mai yr un peth ydyw a'r ffidl, ond mai gair Saesneg ydyw ffidl ac mai gair Cymraeg am yr un offeryn ydyw Crwth. Ond camsyniad mawr ydyw hyn. Y mae'r ddau offeryn yn gwbl wahanol. Gwneir camsyniad arall hefyd, gan y rhai sydd eisoes wedi deall fod gwahaniaeth rhwng y ddau offeryn, sef mai offeryn Cymreig ydyw'r Crwth, mai yng Nghymru y cafodd ei ddarganfod, a Chymry yn unig a wyddent am dano. Eithr nid felly. Perthyn y crwth i deulu hên iawn, ac offeryn wedi ei ddwyn i Gymru ydyw, ac nid yma y mae ei wlad enedigol. Y peth cyntaf a ddylid ei wneuthur ydyw gosod i lawr yn derfynol bod y ffidl a'r crwth yn perthyn i ddau deulu offerynnol gwahanol iawn. Gwir bod y ddau yn offer llin- ynnol, er hynny y maent wedi disgyn o ddau le gwahanol. I. HYNAFIAID Y CRWTH. Ceir bod y crwth, neu offeryn tebig iddo, mewn brî ganrifoedd cyn Crist. Oddimewn1 i fedd rhyw hen Pharoah yn yr Aifft (Osirtasen I) y mae darlun o gerdd- 1 Sir G. Wilkinson­"Manners and Customs of Ancient Egyptians'^ Llundain, 1878.