Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINWYR A CHYFRINIAETH. Onid oes Gan enaid ynddo'i hun, rhyw drai O dywyll bethau'n murmur o'r tu ol Ar draethydd pellaf atgof, traethydd lle Y collwyd atgof gydag engyrth ddrylliau Rhyw fyd neu fydoedd?" -Islwyn. Rhyfedd y dylanwad a'r gallu distaw hydreiddiol sydd gan gyfrinwyr a chyfriniaeth. Prif fai pob sect grefyddol, medd cyfrinwyr, ydyw eu bod yn rhy frys- iog a phryderus i ddeffinio eu crêd crefyddol. "Ymdrechu y maent," meddant hwy, gylchgyfyngu'r Anfeidrol." Ni fedr cyfrinwyr edrych ar Gristnogaeth felly. Ac hawdd ydyw credu hyn os ydyw'r deffiniad a ganlyn o eiddo Martensen parthed y grefydd gyfriniol yn gywir: An angel's head with wings, but without body, hover- ing about in the clouds and disjoined from actual indiv- iduality; separated from real, complete personality, and thus also from the beating heart." Y mae cyfriniaeth yn fynegiant o'r grêd ddofn honno ein bod mewn meddiant o ffynonellau gwybodaeth ar wahan i gynorthwyon y syn- hwyrau a bod yna ystâd neilltuol ar y meddwl ambell dro, pan ymgynnyg iddo fflachiadau moesol a deallol 0 oleuni na fedrwn roddi cyfrif ohonynt fel effeithiau unrhyw ysgogiad neu gyfuniad o eiddo'n cynheddfau cyffredin. Nid ydyw cyfriniaeth heb ei chwmwl tystion. Gwelwn y beirdd Coventry Patmore, Traherne, Richard Crashaw, Wordsworth, Islwyn, a Francis Thompson, yn eu plith. Yn wir rhamant enaid cyfriniwr a welir amlycaf ym mhrif gerdd y diweddaf, sef "The Hound of Heaven." Ym- gais enaid mewn ymchwil diorffwys am brydferthwch llawenydd yng nghudd lwybrau'r byd: mewn athron- iaeth, yn chwerthiniad a galar y bywyd cyffredin, yn serch cyfeillion a pherthynasau, ac mewn plentyndod, cyfnod a apeliai'n ddigymar iddo ef; mewn natur, ac ar ol llawer o grwydriadau a gobeithion disylwedd, yn Nuw-fel y cyflwynai'r Eglwys Gatholig ef iddo, sef y tawelwch