Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhyfedd ac amrywiol ydyw'r llwybrau a gymer y ddynoliaeth er cyd-gyfarfod yn y "Ddinas ag iddi syl- feini, Cynllunydd ac Adeiladydd yr hon yw Duw." Gwel- odd Ioan y Difinydd y saint yn ymlwybro ac yn myned i fewn i'r ddinas yma-ac ef ydyw nawdd sant y cyfrinwyr. Gwelodd hwynt yn dyfod yn dyrfa na allesid eu rhifo o du y dwyrain, ac o du y gogledd, o du y dehau, ac o du y gorlleẁin," a chenhedloedd y rhai cadwedig yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a'u anrhydedd iddi hi. A'i phyrth hi yn agor- ed yn dragywydd." A gogoniant y Jehofa yn gyfryw fel nad â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd- dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr Bywyd yr Oen. A hwy a gânt weled ei wyneb Ef, ac a deyrnasant yn oes oesoedd." Pentre Rhondda. T. THOMAS (Llenbryf). CWSG. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd. — Salm iii. 5. Ni raid i ni wrth ddigwyddiadau eithriadol a chynhyrfus, i weled mawr amryw ddoethineb a gallu Duw. Dengys y pethau mwyaf cyffredin, megis y cyfnewid dyddiol a ddigwydd yn natur ac yn ein cyrff ninnau, fod yr Hwn a greodd bob peth, ac sydd yn llywio pob digwyddiad, yn anfeidrol a gogoneddus berffaith. Ac un o'i ryfedd weithredoedd Ef ydyw cwsg-digwyddiad cyffredin a gymer le yn feunyddiol. Meddyliwn yn syn am y rhai a fwynhant ei adnewyddiad a'i adgyfnerthiad, heb efallai erioed ystyried mai rhodd arbennig Duw ydyw. Er i swyn-hudol gwsg ddod fel cawod trostynt, ni theimlant fod dim anghyffredin wedi digwydd, a dywedant fod peir- ianwaith cywrain y corff wedi ei wneuthur a'i drefnu i gysgu, ac mai achosion naturiol sydd yn ei gynhyrchu. Y mae hyn mewn rhan yn wir, ond nid yw'n llai rhyfedd er hynny. Ni ddaw cwsg mwy na theyrnas