Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EPISTOL AT YR HEBREAID. Y LLYFR diweddaf a ddaeth i'm meddiant ar yr Epistol uchod, ydyw eiddo'r Athro E. F. Scott, sy'n ddysgawdr hyglod mewn sefydliad diwinyddol yn Efrog Newydd. Teimlwn ni yng Nghymru rhyw swyn rhyfeddol yn yr Epistol at yr Hebreaid, byth er pan ddaeth esboniad y Prifathro T. C. Edwards ger bron y cyhoedd. Ni ddylem ychwaith fod yn anghyfarwydd yn Esboniad y Parch. W. Rees, D.D., ar/y rhan hon o air Duw, a gyhoeddwyd yn 1865. O hynny hyd yn awr y mae cryn efrydu wedi bod ar yr Epistol hwn, a llawer golygiad, a syniad newydd wedi'u gwneuthur yn amlwg; a dadleuir yn wresog dros ambell i ddamcaniaeth na ddychmygodd ein tadau amdani. Cyfres o ddarlithoedd a geir gan y Dr. Scott, ac nid Esboniad yn ystyr gyffredin y gair. Cyffyrddir, er hynny, â phob anhawster o bwys, a cheir goleuni gwerthfawr ar y dyrysbynciau pennaf ynglyn a'r Epistol. Hysbys i lawer yng Nghymru ydyw gweithiau'r Athro Scott ar "Y Bedwaredd Efengyl," ac ar "Deyrnas y Meseia." Darllenir ei gynhyrchion yn awchus ar gyf- rif ei arddull glir a swynol, yn gystal a dyfnder a thry- lwyredd ei ymchwiliadau. Beth bynnag a ddywedir am ei olygiadau, fel y traethir hwynt, ar Y Bedwaredd Ef- engyl," ac yn ddiweddarach yn yr Outline of Christian- ity," a'r Hanes yr Arglwydd Iesu," myn sylw ac ystyr- iaeth yr efrydydd diwinyddol. Yn ei Ragair i'w lyfr ar yr Hebreaid, dywed yr awdur nad oes galwad arno i ymesgusodi am yr ymgais ychwan- egol hon-at yr eiddo A. B. Bruce, G. Milligan, ac A. N airne-i egluro'r rhan odidog yma o'r Testament Newydd, Pwysleisir hefyd fod yr Epistol yn cynnwys cenadwri nodedig o gyfaddas i'n hoes ni, a bod ei ddysg- eidiaeth yn cyfarfod yn rhyfedd ag angen presennol yr eglwys. I. Ychydig, mewn cymhariaeth, o ofod a roddir i ym- holi a thrafod ynghylch awduriaeth yr Epistol. Nid dod o hyd i'r person sicr ac ysgrifennydd y llythyr, ydyw amcan yr awdur. Un dystiolaeth, yn unig, sy'n ym-